Nathan Cleverly
Fe allai’r Cymro Nathan Cleverly fod nôl yn y sgwâr bocsio ym mis Mai.

Nid yw Cleverly wedi bocsio ers colli ei deitl byd WBO trwm-ysgafn yn Awst 2013 yn erbyn Sergey Kovalev o Rwsia.

Nid oes gwrthwynebydd wedi ei gyhoeddi eto, ond mae Cleverly yn gobeithio symud o’r adran trwm-ysgafn i’r adran is-drwm ar gyfer ei ornest nesaf.  Mi fydd y frwydr yn cael ei gynnal a’r ‘Second Coming’ sy’n cael ei hyrwyddo gan sefydliad Eddie Hearn.

Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol am y digwyddiad heddiw yng Nghaerdydd.  Hefyd mae disgwyl i’w gyd-wladwyr Lee Selby a Gavin Rees fod yn rhan o’r digwyddiad.