Mae UEFA yn paratoi i lansio cynlluniau ar gyfer twrnament rhyngwladol newydd rhwng gwledydd Ewrop fyddai’n dechrau rywbryd ar ôl 2018.
Byddai’r gystadleuaeth Cynghrair y Gwledydd yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, rhwng Cwpan y Byd a Phencampwriaethau Ewrop, yn ystod dyddiadau sydd ar hyn o bryd wedi’u clustnodi ar gyfer gemau cyfeillgar.
Dyw’r corff sydd yn rhedeg pêl-droed yn Ewrop heb gyhoeddi’r manylion llawn eto, ond mae disgwyl i Gyngres UEFA gymeradwyo’r cynllun ddydd Iau.
Yn ôl ysgrifennydd UEFA Gianni Infantino byddai’r gwledydd yn debygol o gael eu rhannu i bedwar adran, yn dibynnu ar eu detholiadau UEFA.
Ar hyn o bryd fe fyddai Lloegr yn debygol o fod yn yr adran gyntaf, Gweriniaeth Iwerddon yn yr ail adran, a Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y drydedd adran.
Byddai gwledydd yn yr adrannau is hefyd yn cael cyfle, petai nhw’n cyrraedd y rowndiau terfynol, i chwarae gemau ail gyfle i geisio cyrraedd Cwpan y Byd neu Bencampwriaethau Ewrop.
Fodd bynnag, fe fydd rhai dyddiadau dal ar gael ar gyfer trefnu gemau cyfeillgar eraill, gan gynnwys gyda thimau mewn ‘adrannau’ gwahanol a thimau o gyfandiroedd eraill.