Michael Laudrup
Alun Rhys Chivers sy’n edrych nol dros sylwadau cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup mewn cynhadledd i’r wasg ddoe…
Os yw wythnos yn amser hir yn y byd gwleidyddol, yna mae’n siŵr bod cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup yn teimlo bod pythefnos yn y byd pêl-droed lawer iawn hirach.
Heb fawr o ymdrech i gadarnhau neu wadu’r sïon sydd wedi bod ar led ers rhai wythnosau bellach ynghylch yr hyn ddigwyddodd cyn ei ddiswyddo ar Chwefror 4, eglurodd Laudrup ei ochr yntau o’r stori wrth gynhadledd i’r wasg ym maes awyr Heathrow brynhawn ddoe. Wfftio’r gynhadledd oedd agwedd rhai ar wefan Twitter, ond roedd eraill yn ysu i gael clywed y stori o’r safbwynt arall, fel petai.
Dechreuodd Laudrup trwy ddweud ei fod e wedi aros naw diwrnod cyn derbyn llythyr gan y clwb yn esbonio pam y cafodd ei ddiswyddo. “Pam gymerodd hynny cyhyd?”, oedd yr ateb roedd Laudrup yn ei geisio.
Fe ddywedodd yn hollol onest mai aros yn yr Uwch Gynghrair oedd ei orchwyl ar gyfer y tymor. A fyddai wedi cyflawni hynny? Digon posib, ond roedd yn rhy gynnar i ddweud â sicrwydd fod yr Elyrch yn ddiogel.
Ar Chwefror 4, daeth cadarnhad gan y clwb fod Laudrup wedi gadael yr Elyrch, a doedd hi ddim yn hir cyn i’r wasg fynd ati i gyhoeddi sïon ynghylch y rhesymau dros benderfyniad y cadeirydd Huw Jenkins a’r cyfarwyddwyr eraill. Ychydig iawn o ffeithiau, ond cryn dipyn o sïon. Yr unig ffaith oedd yn sicr oedd fod Jenkins yn anghydweld ag asiant Laudrup, Bayram Tutumlu ers diwedd yr haf blaenorol.
Y si cyntaf
Gwnaeth y cyfarwyddwyr gwrdd dros goffi ar safle hyfforddi’r clwb – defod hollol arferol, yn ôl Jenkins – ddeuddydd yn unig cyn diswyddo Laudrup. Fe wadodd Jenkins eu bod nhw wedi trafod dyfodol Laudrup. Roedd y cyfarfod hwn – sinistr neu beidio – yn dilyn colled yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn West Ham o 2-0. Cyn hynny, buddugoliaethau oddi cartref yn erbyn Arsenal, Lerpwl a Chelsea. A hynny ar ben ennill Cwpan Capital One y tymor blaenorol, a chyrraedd Cynghrair Europa.
Yr ail si
Roedd agwedd y clwb tuag at Laudrup yn dechrau newid, a’r cyfarwyddwyr yn anhapus gyda dulliau hyfforddi Laudrup a’i staff. Daeth pwysau i newid ei staff cynorthwyol. Cadarnhaodd Laudrup hynny ddoe. Gwrthododd ddilyn y cyfarwyddyd am nad oedd rheswm eu diswyddo, meddai.
Y trydydd si
Roedd cyfarfod i ddilyn, rhwng Laudrup a Jenkins y dydd Mawrth canlynol. Roedd Laudrup, meddai’r wasg, yn Ffrainc ar y dydd Llun, gan awgrymu iddo gefnu ar ei gyfrifoldebau. Wfftiodd yr honiadau hynny’n chwyrn ddoe, a thaflu cysgod dros onestrwydd Jenkins. Roedd y cadeirydd, meddai, yn ymwybodol bod Laudrup yn delio â “mater personol” y diwrnod hwnnw – a doedd e ddim yn Ffrainc.
Y pedwerydd si
Roedd Laudrup, meddai’r wasg, wedi gwrthod cyfarfod â nifer o chwaraewyr roedd Jenkins am iddo eu harwyddo. Yn ôl Laudrup, cafodd Jenkins wybod ganddo ar ddiwedd y tymor diwethaf pwy oedd e am ddenu i’r clwb. Ddaethon nhw ddim yn y pen draw, “am ba bynnag reswm”. Cyfrifoldeb Jenkins, meddai, oedd cau pen y mwdwl. Eisoes, roedd asiant Laudrup, Bayram Tutumlu wedi mynnu cael mwy o ddylanwad yn y farchnad drosglwyddo, a hynny wedi achosi ffrae â Jenkins.
Y cyfarfod ar ben, y materion wedi’u datrys, meddai Laudrup. Fe fyddai’n cadw ei swydd – am y tro, o leiaf. Rhai oriau’n ddiweddarach, cafodd wybod – trwy e-bost – ei fod e wedi colli’i swydd. Roedd y stori yn nwylo’r wasg cyn diwedd yr alwad ffôn. Roedd wedi torri amodau’r cytundeb, meddai’r clwb. Sut? Chafodd e ddim esboniad. Dim cyfle i ffarwelio â’r chwaraewyr, wedyn, “rhag iddo amharu ar y paratoadau” ar gyfer y Sadwrn canlynol. Mater difrifol, wedyn, yn troi’n chwerthinllyd.
Fel arfer, mae Laudrup yn gadael ei gytundeb gyda chlybiau ag un tymor yn weddill, ond fe fynnodd ddoe na fyddai wedi gadael Abertawe. Roedd y wasg wedi mynnu i’r gwrthwyneb.
Dywedodd Jenkins fod y penderfyniad wedi’i wneud “er lles y clwb”, ac fe gafodd Garry Monk ei benodi’n brif hyfforddwr dros dro. Roedd Jenkins yn awyddus i’w gael ar y staff hyfforddi ers tro byd. Gadawodd tri aelod o’r staff y clwb drennydd diswyddo Laudrup – Morten Wieghorst, Oscar Garcia ac Erik Larsen.
Digwyddodd hyn oll ddyddiau’n unig cyn y gêm fawr yn erbyn Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair, a’r wasg a’r cefnogwyr yn rhyfeddu at amseru’r penderfyniad. Ar unwaith, roedd Monk o dan bwysau i gadarnhau na fyddai ei berthynas gythryblus â’r amddiffynnwr Chico Flores yn debygol o effeithio ar y tîm ar y cae. Lai na phythefnos ynghynt, roedd adroddiadau bod yr heddlu wedi’u galw i’r safle hyfforddi yn dilyn ffrae, a bod gan Chico fricsen yn ei law. Cyfaddefodd y clwb fod ffrae wedi digwydd, ond fe wnaethon nhw wadu’r honiadau am y fricsen.
Yn yr wythnos pan ddylai llygaid y wasg fod wedi’u hoelio ar baratoadau’r clwb ar gyfer ymweliad Caerdydd â’r Liberty, roedd llawer iawn gormod o sylw’n cael ei roi i’r hyn oedd yn digwydd y tu hwnt i olwg y cyhoedd, a sylwadau’r wasg yn creu gweithgarwch di-baid ar wefannau cymdeithasol.
Nid Abertawe yw’r unig glwb lle mae drama ddyddiol y rheolwyr yn cael ei llwyfannu trwy’r wasg.
Y penwythnos diwethaf, fe gyhoeddodd papur newydd y Sunday Express fod rheolwr Newcastle, Alan Pardew, ar fin colli’i swydd pe bai’n colli’r gêm nesaf yn erbyn Aston Villa. ‘Ecsgliwsif’ i’r gohebydd, meddai’r papur. Celwydd noeth meddai Newcastle.
Cafodd y papur a’i newyddiadurwyr eu gwahardd rhag mynd i’r clwb yn sgil y stori ffug. “Creu anfodlonrwydd” neu “dibenion masnachol”, meddai’r clwb, oedd y rheswm pam fod y papur wedi cyhoeddi’r anwiredd. “Beat Villa or it’s the bullet” oedd pennawd yr erthygl. Dim cyd-destun pellach, dim esboniad. Ond digon o fachyn, mae’n siŵr, i annog darllenwyr i brynu’r papur.
Cafodd y math hwn o newyddiaduraeth ei feirniadu gan Laudrup yntau ddoe. Ai cadeiryddion a pherchnogion clybiau, felly, sydd wir yn gwneud y penderfyniadau mawr? Neu a ydyn nhw’n cael eu gwneud yn anuniongyrchol gan y wasg, sy’n annog trafodaeth ehangach trwy wefannau cymdeithasol? Efallai y daw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw pan ddaw gweddill yr atebion am gyfnod Michael Laudrup wrth y llyw yn y Liberty.
Gellir darllen y datganiad yn llawn yma…