Leon Britton
Mae Leon Britton wedi disgrifio penodiad Garry Monk fel rheolwr Abertawe nes diwedd y tymor yn “gam naturiol”.
Ers cymryd yr awenau ar ôl diswyddiad Michael Laudrup mae Monk wedi arwain y tîm i fuddugoliaeth dros Gaerdydd, gêm gyfartal yn erbyn Stoke a cholled yn y Gwpan i Everton.
Ac mae Britton, oedd yn arfer rhannu stafell gyda Monk cyn iddo wneud y cam o fod yn chwaraewr i reolwr, yn credu bod Abertawe wedi gwneud y penderfyniad iawn yn ei apwyntio.
‘Dealltwriaeth wych o’r gêm’
“Mae wastad am fod yn rhyfedd i ddechrau achos un funud rydych chi’n gyd-chwaraewyr a’r peth nesaf rydych chi’n ei alw’n ‘gaffer’,” meddai Britton, sydd wedi ymddangos 21 gwaith dros Abertawe’r tymor hwn.
“Efallai ei bod hi hyd yn oed yn fwy rhyfedd i mi gan mod i wedi rhannu ystafell gydag ef ar ymweliadau oddi cartref.
“Mae wedi bod yn arweinydd ar y cae ers blynyddoedd, a nawr mae’n arweinydd oddi ar y cae felly mae’n teimlo fel cam naturiol iddo ef.
“Mae ganddo ddealltwriaeth wych o’r gêm ac rydyn ni wedi gweld hynny yn ei ddadansoddiadau tactegol yn barod.
“Mae’r bwrdd a’r chwaraewyr yn ei nabod yn dda, mae’n uchel ei barch ac rwy’n credu bod y cefnogwyr y tu ôl iddo hefyd.”
Bydd Abertawe’n herio Napoli gartref nos Iau yn eu gêm nesaf, yng nghymal cyntaf rownd 32 olaf Cynghrair Ewropa.
Ddoe fe siaradodd eu cyn-reolwr Michael Laudrup yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers iddo gael ei ddiswyddo, gan ddweud fod y rheswm y cafodd y sac yn parhau’n ‘ddirgelwch’ a bod Abertawe wedi’i hysbysu dros e-bost ei fod yn colli’i swydd.