George North fydd partner Jamie Roberts yng nghanol cae
Mae Warren Gatland wedi dewis George North fel canolwr ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc nos Wener.
Mae’n golygu bod Liam Williams yn dod mewn ar yr asgell yn lle North fel un o dri newid, tra bod Luke Charteris yn dychwelyd ar ôl anaf i ddechrau yn yr ail reng.
Y newid mawr arall yw safle’r mewnwr gyda Rhys Webb yn cael ei ddewis o flaen Mike Phillips, sydd ar y fainc.
Rhys Priestland sydd wedi cael ei ddewis fel maswr unwaith eto, gyda Dan Biggar ar y fainc y tro hwn.
Roedd gan Gatland benderfyniad anodd i’w wneud yn sgil anafiadau i’r canolwyr Jonathan Davies (brest), Scott Williams (ysgwydd) ac Ashley Beck (clun).
Ac mae’r hyfforddwr wedi dewis mynd am bŵer North yng nghanol cae yn hytrach na’r doniau’r amryddawn James Hook, sydd ar y fainc.
Fe fydd Cymru’n croesawu’r Ffrancwyr i Stadiwm y Mileniwm nos Wener gan geisio gwneud yn iawn am y grasfa pythefnos yn ôl pan gollon nhw yn Nulyn i Iwerddon.
Webb yn creu argraff
Dywedodd Gatland wrth gyhoeddi’r tîm fod perfformiad Rhys Webb i’r Gweilch dros y penwythnos wedi cyfrannu tuag at ddewis y mewnwr yn y pymtheg fydd yn dechrau.
“Mae nos Wener yn gêm enfawr i ni,” meddai Gatland. “Fel carfan mae gennym ni lawer o brofiad yn y gystadleuaeth hwn ac fe fyddwn ni’n galw ar hynny’n penwythnos yma.
“Rydym ni’n gweld y gêm hon fel cyfle i wneud yn iawn am bethau.
“Mae Luke [Charteris] wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr wythnosau diwethaf ac maen hwb mawr i ni ei fod yn ôl.
“Roeddwn i’n meddwl fod Rhys [Webb] wedi chwarae’n wych i’r Gweilch dros y penwythnos ac mae’n dod a dimensiwn gwahanol i ni, ac mae’n gyfle gwych iddo ef.
“Mae George [North] yn symud i ganol cae ac mae’n dod a gwaith traed da i’r rôl. Fe wnaeth e argraff yno yn erbyn Awstralia yn yr hydref. Bydd ei bartneriaeth gyda Jamie yn bwysig er mwyn i ni stopio bygythiad Ffrainc a Mathieu Bastareaud.”
Tîm Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Liam Williams (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets), Rhys Webb (Gleision); Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton – capten (Gleision), Taulupe Faletau (Dreigiau)
Eilyddion: Rhodri Jones (Scarlets), Paul James (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Dan Biggar (Gweilch), James Hook (Perpignan)