Mae Amgueddfa griced CC4 yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr arloesedd ym maes aml-gyfrwng yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Nghernyw ym mis Ebrill.
Cafodd yr amgueddfa ei hagor fis Mawrth diwethaf yn adeilad y Ganolfan Griced Genedlaethol yn y brifddinas, yn y stadiwm sy’n gartref i Glwb Criced Morgannwg.
Mae’r amgueddfa’n cael ei rhedeg mewn cydweithrediad â chwmni cyfryngau CC4 yng Nghaerdydd, ac mae’n cofnodi hanes dros 250 o flynyddoedd o griced yng Nghymru.
Yn yr amgueddfa, mae cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar sawl arddangosfa ryngweithiol, gan gynnwys ‘CricEd’ ar gyfer plant cyfnod allweddol 2 a 3, a gemau ‘Batio’ ar gyfer y Wii a ‘Shwmae’.
Caiff hanes y clwb ei adrodd trwy brosiect ‘TaleEnders’ mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru a nifer o bartneriaid eraill.
Mae un o’r arddangosfeydd arbenigol eleni yn cynnwys hanes chwaraewyr Morgannwg fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae mwy na 5,000 o eitemau hanesyddol yn yr amgueddfa.
Wrth ymateb i’r newyddion mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae Clwb Criced Morgannwg yn falch ac yn ei chael yn anrhydedd fod Amgueddfa Griced Cymru CC4 wedi derbyn cydnabyddiaeth ar gyfer y Wobr Arloesedd ym maes Aml-gyfrwng werthfawr iawn yn yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd eleni.
“Trwy gefnogaeth nifer o gyfranwyr, a neb yn fwy na Chronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym wir yn credu ein bod ni, mewn partneriaeth â CC4, wedi creu atyniad arloesol a dwyieithog, y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr CC4, Huw Owen: “Mae hyn yn newyddion gwych!
“Does dim angen gwobr wrth weithio gyda fy hoff dîm chwaraeon, ond mae bod ar restr fer yr Ŵyl Gyfryngau Celtaidd yn gydnabyddiaeth hyfryd o’r creadigrwydd a’r ymdrech y tu ôl i Amgueddfa Griced Cymru CC4.”