Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n pendroni pa effaith gaiff y llif o Gymry sydd yng Nghrystal Palace ar y tîm cenedlaethol …

Mae ‘na bellach yr un faint o Gymry’n chwarae i Crystal Palace ac sydd yn nhimau Abertawe a Chaerdydd gyda’i gilydd, credwch neu beidio.

Ella mai adlewyrchiad gwael ar y ddau glwb Cymreig ‘di hynna, gydag ond dau chwaraewr o Gaerdydd (Craig Bellamy a Declan John) a thri o Abertawe (Ashley Williams, Ben Davies a Neil Taylor).

Ond mae hi dal yn syfrdanol meddwl bod pum Cymro rhyngwladol yn chwarae i’r un tîm yn yr Uwch Gynghrair – ydy hyn ‘rioed di digwydd o’r blaen?

Pan benodwyd Tony Pulis (y Cymro) yn rheolwr ar Palace ym mis Tachwedd etifeddodd garfan oedd yn cynnwys pedwar Cymro’n barod – Danny Gabiddon, Jonathan Williams, Lewis Price a Darcy Blake.

Mae Blake bellach wedi cael ei ryddhau gan y clwb, ond fis dwytha fe arwyddodd Pulis ddau Gymro arall all chwarae rhan bwysig iawn iddyn nhw’r tymor yma.

Cam da i Hennessey a Ledley

Y cyntaf oedd Wayne Hennessey o Wolves, y dyn o Fôn sy’n ddewis cyntaf yn y gôl i Gymru ar hyn  o bryd.

Mae’n rhyddhad mawr gweld Hennessey’n symud, rhaid deud. Doedd o ddim hyd yn oed yn cael gêm i Wolves yng Nghynghrair Un, ar ôl dychwelyd yno ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Yeovil.

Mae o’n olwr lot rhy dda i’r safon yna – mae’n sicr yn ddigon da i ddechrau yn y Bencampwriaeth ac mae ganddo’r gallu i chwarae yn yr Uwch Gynghrair hefyd, heb os.

Mae golwr arall Palace, Julian Speroni, yn 34 bellach, felly’r gobaith ydi mai Wayne bach ni fydd y rhif un, os nad rŵan, yn sicr erbyn tymor nesaf.

Joe Ledley di’r llall gyrhaeddodd ym mis Ionawr, ac o bersbectif Cymreig eto mae’n dda’i weld yn gadael Celtic.

Oce iawn, mae o’n gallu ennill pob medal (domestig) dan haul yn yr Alban ar ôl i Rangers fynd i’r wal, ond mae’n wir nad ydi Cynghrair yr Alban yn un cryf iawn.

Ac felly i Ledley ma’ ymuno efo Palace a bod mewn sgrap am lefydd yng nghanol cae (er mai fel cefnwr chwith ro’dd o’n chwarae ar y penwythnos pan sgoriodd o) yn sicr yn beth da o ran ei ddatblygiad.

Dio ddim wastad wedi disgleirio yng nghrys Cymru’n ddiweddar, ac er bod ‘na ddigon o chwaraewyr canol cae i ddewis ohonynt mewn theori i Gymru, yn aml bydd dau neu dri o leiaf wedi’u hanafu – felly mae Ledley’n aml yn ddewis awtomatig.

Dos, Joni bach!

Mae’n ymddangos bod y Cymry sydd yno’n barod hefyd yn falch bod eu cydwladwyr wedi cyrraedd – gweler y llun yma o Joni, Ledley a ‘Gabbs’ allan am ddiod fach!

Ond yn anffodus i Joniesta, dwi ddim yn meddwl y dylai o aros yn Crystal Palace ar hyn o bryd, er bod o wedi arwyddo cytundeb newydd hir dymor.

Wrth gadw llygad arno ar y ‘Cip ar y Cymry’ wythnosol buan y gwelwch chi nad ydi o’n cael fawr ddim gêm i Palace ar hyn o bryd – ‘di o heb ddechrau’r un gêm yn yr Uwch Gynghrair eto a doedd o ddim hyd yn oed ar y fainc tro dwytha.

Ac yntau ond yn 20 oed, mae’n hanfodol ei fod o’n mynd allan ar fenthyg i’r Bencampwriaeth er mwyn chwarae’n fwy rheolaidd. Mae angen hynny arno fo a Chymru os ydan ni am wneud y mwyaf o’i dalent.

Jyst drychwch ar Emyr Huws. Yn lle llesteirio yn Man City mae o ‘di mynd ar fenthyg i Birmingham, a ‘di chwarae 90 munud ddwywaith, cael seren y gêm ddwywaith a chreu gôl ym mhob o’r gemau hynny ers ymuno.

Go brin wnawn ni weld pedwar Palace ar y cae gyda’i gilydd llawer y tymor yma (‘di Price ddim yn cyfri gan mai’r ‘bac-yp goli’ ydi o).

Ond ma’ cael chwaraewyr yn chwarae ar y lefel uchaf yn hanfodol i dîm rhyngwladol Cymru, felly gobeithio’n wir y gwnaiff Palas aros fyny’r tymor yma – er, nid ar draul yr Adar Cochion neu’r Elyrch chwaith.

Gallwch ddilyn Iolo ar Twitter ar @iolocheung.