Gareth Bale
Sgoriodd Gareth Bale gôl agoriadol Real Madrid a chreu eu hail wrth iddyn nhw drechu Villarreal 4-2 nos Sadwrn i godi i frig La Liga.
Saith munud yn unig gymerodd hi i’r Cymro rwydo’r gôl agoriadol, wrth ddychwelyd i’r tîm ar ôl anaf a chymryd lle Ronaldo sydd wedi’i wahardd am dair gêm, cyn creu ail gôl Madrid hefyd i Benzema.
Ond dim ond dros dro yr oedd Real Madrid yn gyntaf yn y gynghrair, gyda buddugoliaeth Barcelona dros Sevilla neithiwr yn golygu’u bod nhw, Real ac Atletico Madrid i gyd bellach yn gyfartal ar 57 o bwyntiau.
Ymddangosodd pob un o’r Cymry yn narbi fawr yr Uwch Gynghrair dros y penwythnos wrth i Abertawe drechu Caerdydd o 3-0 yng ngêm gyntaf Garry Monk wrth lyw’r Elyrch.
Chwaraeodd Ashley Williams a Ben Davies ran bwysig wrth gadw’r llechen lan i Abertawe (gyda Neil Taylor yn ymddangos am ddau funud tua’r diwedd).
Ond siomedig oedd Craig Bellamy a Declan John a chwaraeodd 90 munud yr un i’r Adar Gleision, Bellamy’n taro’r trawst gydag un ergyd ond John ar fai wrth adael i Nathan Dyer benio ail yr Elyrch.
Ar y llaw arall dim ond un o bum Cymro Crystal Palace a welwyd ar y penwythnos wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth hollbwysig o 3-1 yn erbyn Hull, Joe Ledley’n chwarae fel cefnwr chwith ac yn penio’r ail gôl yn ei ymddangosiad cyntaf i’r clwb.
Chwaraeodd James Collins 90 munud wrth i West Ham gadw llechen lan arall mewn buddugoliaeth o 2-0 dros Aston Villa, tra bod Joe Allen wedi cael bron i hanner awr ar y cae wrth i Lerpwl chwalu Arsenal o 5-1.
Yn y Bencampwriaeth fe serennodd Emyr Huws am yr ail gêm yn olynol ers ymuno â Birmingham, gan greu gôl agoriadol Macheda a chael ei enwi’n seren y gêm unwaith eto wrth iddyn nhw drechu Charlton 2-0.
Enillodd Burnley 3-1 yn erbyn Millwall i ddychwelyd i’r ail safle yn y gynghrair dros dro, er na wnaeth yr un o ymosodwyr Cymru, Sam Vokes a Steve Morison, lwyddo i rwydo i’w timau.
Yr amddiffynwyr Joel Lynch a Chris Gunter oedd yr unig Gymry eraill i chwarae gemau llawn yn y Bencampwriaeth, gydag Adam Henley, Simon Church, David Cotterill a Hal Robson-Kanu’n gwneud ymddangosiadau byrrach.
Colli yn syfrdanol i Aberdeen o 2-1 yng Nghwpan yr Alban wnaeth Celtic, wrth i Adam Matthews chwarae 90 munud llawn am y tro cyntaf ers dros fis yn dilyn anaf.
Ac fe welwyd pum Cymro ar y cae wrth i Tranmere golli 2-1 i Preston, Craig Davies yn creu un o goliau’r tîm buddugol ac Ash Taylor yn sgorio unig gôl y tîm cartref.
Dechreuodd Owain Fôn Williams a Jake Cassidy i Tranmere, gyda Jason Koumas – ia, hwnnw – hefyd yn ymddangos i’r tîm o Benbedw.
Seren yr wythnos: Gareth Bale – sgorio a chreu gôl yn ystod cyfnod pan mae rhai yn cwestiynu’i le yn y tîm.
Siom yr wythnos: Declan John – Colli’i ddyn a gadael i’r chwaraewr byrraf ar y cae benio ail gôl Abertawe yn isafbwynt ar ei brynhawn.