Sam Warburton
Dywed capten Cymru, Sam Warburton, ei fod yn gresynu at ddiffyg disgyblaeth ei dîm ar ôl cael eu chwalu 26-3 gan y Gwyddelod yn Nulyn ddoe.
Roedd Cymru wedi ildio 16 o giciau cosb yn y gêm.
“Fe wydden ni na allen ni ddal ati i roi ciciau cosb i ffwrdd,” meddai. “Roedden ni’n siarad am hynny, ond doedden ni ddim yn gallu ei newid.
“Roedd yn rhywbeth yr oedden ni’n gwybod bod yn rhaid ei gywirio, ond doedden ni ddim yn gallu gwneud hynny.”
Dywedodd fod Iwerddon yn haeddu llawer o glod am eu perfformiad.
“Roedd yn debyg i’r hyn y gwnaethon ni ei brofi yn yr hanner cyntaf yn eu herbyn y llynedd, ond y tro hwn fe wnaethon nhw gynnal hynny am 80 munud.
“Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n wych yn erbyn y Crysau Duon (mis Tachwedd diwethaf), felly roedden ni’n gwybod beth oedd yn dod.”
‘Y perfformiad gwaethaf’
Yn y cyfamser, mae cyn-brop Cymru a’r Llewod, Graham Price, wrth ysgrifennu yn y Wales on Sunday, yn rhybuddio fod tasg anodd yn wynebu Cymru wrth herio Lloegr a Ffrainc.
“Hwn yw’r perfformiad gwaethaf y gallaf ei gofio yn y Chwe Gwlad, yn enwedig wrth gofio beth oedd yn y fantol,” meddai.
“Lle mae hyn yn gadael Cymru ar gyfer gweddill y bencampwriaeth, dw i ddim yn siŵr, oherwydd Ffrainc a Lloegr sydd nesaf.
“Fe fyddan nhw wedi gwylio’r gêm, ac fe fydd y ddwy ochr yn hyderus wrth herio Cymru. Mae llawer o waith i’w wneud. A dim llawer o amser i wneud hynny.”