Bu farw’r cricedwr Bernard Hedges, un o’r batwyr gorau yn hanes Morgannwg, yn ei gartref yn y Mwmbwls. Roedd yn 86 oed.
Mewn gyrfa ddisglair a barhaodd am 18 tymor, sgoriodd 17,733 o rediadau mewn 422 o ymddangosiadau dros Forgannwg.
Yn enedigol o Bontypridd, ymunodd â Morgannwg yn 1950 ar ôl cwblhau ei wasanaeth milwrol, a bu’n chwarae i’r clwb yn ddi-dor tan 1967.
Roedd hefyd yn chwaraewr rygbi dawnus pan oedd yn ifanc, gan chwarae i glwb rygbi Pontypridd pan oedd yn dal yn yr ysgol.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Hugh Morris, prif weithredwr a chyfarwyddwr criced Morgannwg:
“Fe fydd Bernard yn cael ei gofio fel un o fatwyr mwyaf nodedig Morgannwg ac fel aelod poblogaidd o’r tîm yn ystod yn yr 1950au a’r 1960au.
“Bydd colled fawr ar ei ôl, a chydymdeimlwn yn fawr â’i deulu.”