Munster 54–13 Gleision

Cafodd y Gleision gweir yn erbyn Munster yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn wrth i benwythnos siomedig i rygbi Cymru yn Iwerddon ddod i ben ar Barc Thomond.

Roedd y Cymry o fewn cyrraedd ar yr egwyl diolch i gais Owen Williams ond enillodd y tîm cartref yn gyfforddus yn y diwedd diolch i dri chais mewn chwe munud yn yr ail hanner tra yr oedd y Gleision i lawr i bedwar dyn ar ddeg.

Hanner Cyntaf

Cyfnewidiodd y maswyr, JJ Hanrahan a Gareth Davies, gic gosb yr un cyn i brop Munster, Dave Kilcoyne, dirio’r cais cyntaf yn dilyn rhediad da James Coughlan o fôn y lein.

Yna cafwyd fflach brin o ysbrydoliaeth gan Harry Robinson i’r Gleision wrth i’w rediad ef greu cais i Owen Williams ac roedd y Gleision yn gyfartal yn dilyn trosiad Davies.

Munster serch hynny oedd ar y blaen ar yr egwyl gan i Hanrahan ychwanegu tair cic gosb yn erbyn un Davies, 19-13 i’r Gwyddelod ar hanner amser.

Ail Hanner

Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail ddeugain er i’r Gleision lwyddo i’w cadw allan tan yr ugain munud olaf.

Newidiodd popeth ar yr awr pan dderbyniodd Pat Palmer gerdyn melyn wedi i bac y Gleision gael eu chwalu mewn cyfres o sgrymiau. Dilynodd cais cosb yn syth a manteisiodd Munster ar eu un dyn o fantais i sgorio dau gais arall hefyd cyn i’r prop ddychwelyd i’r cae.

Daeth y cyntaf i Simon Zebo yn dilyn rhedeg da James Cronin a’r ail i’r asgellwr, Gerhard van den Heever, ar ôl cic letraws Hanrahan.

Rhwbiwyd yr halen yn y briw yn y munudau olaf wrth i Andrew Conway a CJ Stander ychwanegu dau gais arall i godi cyfanswm pwyntiau Munster dros yr hanner cant, 54-13 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn y nawfed safle yn nhabl y Pro12 gyda Munster ar y llaw arall yn aros ar y brig.

.

Munster

Ceisiau: Dave Kilcoyne 10’, Cais Cosb 60’, Simon Zebo 64’, Gerhard van den Heever 66’, Andrew Conway 77’, CJ Stander 80′

Trosiadau: JJ Hanrahan 11’, 61’, 65’, 67’, 77’, 80′

Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 4’, 22’, 27’, 40’

.

Gleision

Cais: Owen Williams 13’

Trosiad: Gareth Davies 14’

Ciciau Cosb: Gareth Davies 8’, 31’

Cerdyn Melyn: Pat Palmer 60’