Abertawe 3–0 Caerdydd

Abertawe aeth â hi yn y gêm ddarbi Gymreig yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Sadwrn gyda buddugoliaeth gyfforddus a haeddianol ar y Liberty.

Rhoddodd Wayne Routledge y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i goliau Nathan Dyer a Wilfred Bony sicrhau’r tri phwynt i’r Elyrch.

Hanner Cyntaf

Daeth dau gyfle gorau Abertawe yn yr hanner cyntaf i Routledge, un ym munud cyntaf yr hanner a’r llall yn yr olaf, ond anelodd yr asgellwr yn syth at David Marshall ar y ddau achlysur.

Ar wahân i hynny, yr ymwelwyr a gafodd gyfleoedd gorau’r 45 munud agoriadol ond peniodd Kenwyne Jones heibio’r postyn o groesiad Craig Bellamy a llwyddodd Michel Vorm i arbed cynnig Peter Wittingham o bellter.

Ail Hanner

Hanner cyntaf digon agos felly ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi’r egwyl a rhoddodd Routledge yr Elyrch ar y blaen wedi dim ond dau funud yn dilyn gwaith creu Pablo Hernández.

Tarodd Bellamy y trawst i Gaerdydd wedi hynny ond roedd yr ymosodwr braidd yn ffodus i aros ar y cae ar ôl taro Jonathan de Guzman toc wedi’r awr.

Ond hyd yn oed gydag un ar ddeg ar y cae ni allodd Caerdydd atal Abertawe rhag ychwanegu dwy gôl arall yn y chwarter awr olaf. Peniodd Dyer i gef y rhwyd i ddechrau o groesiad Routledge cyn i Bony ail adrodd y gamp o gic rydd Pablo ychydig funudau’n ddiweddarach.

Buddugoliaeth gyfforddus i Abertawe yn y diwedd felly ac mae’r canlyniad yn eu codi i’r degfed safle yn y tabl. Mae Caerdydd ar y llaw arall yn aros un lle o waelod tabl yr Uwch Gynghrair.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Rangel, Davies, Britton, Chico, Williams, Dyer (Taylor 88′), De Guzmán (Cañas 69′), Bony, Emnes (Hernández 45′), Routledge

Goliau: Routledge 47’, Dyer 79’, Bony 85’

Cerdyn Melyn: Hernández 78’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio (McNaughton 69′), John, Medel, Caulker, Turner, Bellamy, Whittingham, Jones (Campbell 56′), Kim, Zaha (Mutch 77′)

Cerdyn Melyn: Mutch 86’

.

Torf: 20,402