Wrecsam 1–2 Dartford
Colli fu hanes Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn wrth i Dartford ymweld â’r Cae Ras.
Rhoddodd Andy Pugh yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond deg munud yn dilyn gwaith creu Alex Wall, ond roedd Wrecsam yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner diolch i ergyd dda Joe Clarke o du allan i’r cwrt cosbi.
Roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai hi’n aros tan yr egwyl ond rhoddodd Elliott Bradbrook yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner.
Methodd Wrecsam â chreu llawer yn yr ail gyfnod a daliodd Dartford – y tîm sydd yn ail o waelod y tabl – eu gafael ar y tri phwynt.
Gohiriwyd y rhan fwyaf o gemau’r Gyngres heddiw felly mae Wrecsam yn aros yn ddeuddegfed yn y tabl er gwaethaf y canlyniad siomedig hwn.
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Livesey, Tomassen, Ashton, Carrington, Keates (Thornton 82′), Hunt (Durrell 58′), Harris, Clarke, Ogleby (Anyinsah 58′), Bishop
Gôl: Clarke 21’
Cardiau Melyn: Carrington 9’, Ogleby 36’
.
Dartford
Tîm: Julian, Sterling, Mitchell-King, McAuley, Stevenson, Burns, Cornhill, Bradbrook, Woodyard (Noble 83′), Wall (Harris 71′), Pugh (Clark 93′)
Goliau: Pugh 10’, Bradbrook 45’
Cerdyn Melyn: Wall 24’
.
Torf: 2,645