Iwerddon 26–3 Cymru

Colli fu hanes Cymru brynhawn Sadwrn yn dilyn perfformiad siomedig arall ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd Cymru braidd yn ffodus i drechu’r Eidal gartref yr wythnos diwethaf ond roedd Iwerddon yn rhy dda o lawer iddynt yn yr ail gêm yn Stadiwm Aviva yr wythnos hon.

Hanner Cyntaf

Ildiodd Cymru lawer gormod o giciau cosb yn yr hanner cyntaf a manteisiodd Jonathan Sexton ar bob achlysur, unai trwy ennill tir da yn cicio at yr ystlys neu trwy drosi tri phwynt.

Rhoddodd y maswr y Gwyddelod ar y blaen wedi wyth munud cyn dyblu’r fantais ar ôl dau ar bymtheg.

Yna, daeth y cais agoriadol wedi ychydig dros hanner awr wrth i’r blaenasgellwr, Chris Henry, ymestyn mantais y tîm cartref. Enillodd Iwerddon bêl lân mewn lein ymosodol ac ni allodd Cymru wneud dim i atal y sgarmes symudol rhag hyrddio dros y llinell gais. 13-0 ar yr egwyl yn dilyn trosiad da Sexton.

Ail Hanner

Roedd rhywun yn teimlo fod rhaid i Gymru sgorio gyntaf os am unrhyw obaith yn yr ail hanner ond Sexton ac Iwerddon a gafodd y pwyntiau agoriadol gyda chic gosb arall chwe munud wedi’r ail gychwyn.

Rhoddodd Leigh Halfpenny Gymru ar y sgôr-fwrdd wedi hynny gyda chic gosb ond adferodd Sexton yr un pwynt ar bymtheg o fantais bron yn syth gyda’i bedwaredd cic gosb lwyddiannus ef ar yr awr.

Roedd Cymru yn ddi fflach wrth ymosod ac ymdrech Rhodri Jones oedd yr agosaf a ddaethant, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod gan i’r eilydd fachwr symud ddwywaith ar y llawr cyn tirio.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel i’r Gwyddelod felly wrth i’r chwiban olaf agosáu ond rhwbiodd eilydd faswr Iwerddon, Paddy Jackson, halen ym mriwiau’r Cymry gyda throsgais yn y munud olaf, 26-3 y sgôr terfynol.

Mae Cymru yn disgyn i’r trydydd safle yn nhabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad o ganlyniad i’r golled, ond gall pethau newid eto cyn diwedd y penwythnos wrth i Loegr deithio i’r Alban a Ffrainc groesawu’r Eidal.

.

Iwerddon

Ceisiau: Chris Henry 32’, Paddy Jackson 79’

Trosiadau: Jonathan Sexton 34’, Paddy Jackson 80’

Ciciau Cosb: Jonathan Sexton 8’, 17’, 46’, 60’

.

Cymru

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 56’