Treviso 33–41 Scarlets

Cafodd y Scarlets ganlyniad da yn yr Eidal brynhawn Sadwrn wrth guro Treviso mewn gêm lawn ceisiau yn y Stadio Monigo.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen am ran helaeth o’r gêm ac er i ddau gais hwyr gan yr Eidalwyr achosi diweddglo diddorol, fe ddaliodd Bois y Sosban eu gafael ar y fuddugoliaeth yn y diwedd.

Cyfnewidiodd Aled Thomas  a Mat Berquist gic gosb yr un yn y chwarter cyntaf cyn i’r cais agoriadol ddod wrth i’r dyfarnwr redeg o dan y pyst i ddynodi cais cosb i’r Scarlets.

Ychwanegodd yr asgellwr, Fraizer Climo, ail gais i’r Scarlets wedi hynny ond roedd y tîm cartref yn y gêm o hyd ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb arall gan Berquist, 9-13 ar hanner amser.

Ychwanegodd Climo ei ail gais ef a thrydydd ei dîm o fewn dau funud i ddechrau’r ail hanner a sicrhaodd Gareth Davies y pwynt bonws gyda’r pedwerydd yn fuan wedyn.

Rhoddodd Robert Barbieri lygedyn o obaith i’r Eidalwyr gyda’u cais cyntaf hwy ar yr awr ond tarodd Kristian Phillips yn ôl yn syth gyda phumed yr ymwelwyr.

Roedd Treviso o fewn pwynt serch hynny erbyn pum munud o’r diwedd diolch i gais yr un gan Meyer Swanepoel a Ludovico Nitoglia, a dau drosiad gan Berquist.

Ond y Scarlets a gafodd y gair olaf wrth i gais hwyr Jordan Williams sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr a dwyn y pwynt bonws oddi ar yr Eidalwyr.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets dros y Dreigiau i’r chweched safle yn nhabl y RaboDirect Pro12.

.

Treviso

Ceisiau: Robert Barbieri 60’, Meyer Swanepoel 69’, Ludovico Nitoglia 75’

Trosiadau: Mat Berquist 60’, 69’, 75’

Ciciau Cosb: Mat Berquist 19’, 31’, 40’, 45’

.

Scarlets

Ceisiau: Cais Cosb 25’, Frazier Climo 37’, 42’, Gareth Davies 46’, Kristian Phillips 64’, Jordan Williams 78’

Trosiadau: Aled Thomas 42’, 46’, 64’, 78’

Cic Gosb: Aled Thomas 3’