Rhys Hartley
Mae Rhys Hartley yn dweud fod newid er gwell yn digwydd i’r gêm genedlaethol …

O’r diwedd, cawn gyfle i ddal ein hanadl ar ôl gorfod ceisio cadw lan â’r pantomeim dyddiol yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r cefnogwyr a’r perchennog Vincent Tan yn hapus – am nawr – gyda’r rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer.

Ond er i Gaerdydd hawlio’r penawdau, roedd yna stori fawr hefyd yn y gêm ryngwladol yn ddiweddar, stori am sut a phwy sy’n rheoli ein Cymdeithas Bêl-Droed.

Blwyddyn gythryblus i bêl-droed Cymru

Roedd 2013 yn flwyddyn o embaras i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru (CBDC).

Wedi dechreuad arbennig gyda’r fuddugoliaeth dros Awstria ym mis Chwefror ac yna curo’r Alban yn yr eira, aeth pethau o chwith ar y cae, wrth i’r tîm cenedlaethol fethu ag ennill y pedair gêm nesaf, gan gynnwys colli i Facedonia ac yna cael ein chwalu gartref gan Serbia.

Rhwng y ddwy gêm siomedig yna, torrodd y newyddion bod Coleman am gael cynnig cytundeb newydd – yn gwbl groes i ddymuniadau’r cefnogwyr ar y pryd. Roedd pawb yn gofyn ‘Pam nawr?’

Ond yn fwy siomedig na hynny oedd ymateb aelodau Cyngor y Gymdeithas i sefyllfa clybiau pêl-droed y Barri a Llanelli, ar ôl i’r ddau glwb fynd i’r wal yn dilyn problemau ariannol.

Yn achos y Barri, perchennog barus oedd ar fai tra yn Llanelli, camddealltwriaeth ynglŷn â bil treth o gwta £21,000 oedd wrth wraidd y broblem.

Teyrngarwch gan y cefnogwyr – ond nid y Gymdeithas

Ers sefydlu ein cynghrair cenedlaethol nol ym 1992, bu’r ddau glwb yma ymysg rhai mwyaf llwyddiannus Cymru, yn enwedig yn Ewrop.

Ar gefn llwyddiant y ddau mae cynghorwyr CBDC wedi mwynhau sawl taith tramor, heb sôn am y bri a ddaeth i ran y Gymdeithas yn sgîl eu llwyddiant.

Serch y problemau oddi ar y cae, arhosodd y cefnogwyr yn driw i’w clybiau gan ddangos i GBDC eu bod yn gallu rhedeg y timoedd yn gyfrifol.

Tua diwedd tymor diwethaf roedd cefnogwyr y Barri yn ariannu’r clwb eu hunain cyn i’r perchennog eu cloi nhw allan o’r stadiwm. Roedd y ffordd y cawson eu trin gan y cynghorwyr yn ddim llai na gwarth.

Penderfynodd arweinyddiaeth y Gymdeithas i ddiarddel y ddau dîm a’u condemnio i gynghreiriau lleol. Byddai hyn yn golygu cyfyngiadau pellach ar y clybiau gan fod y rheolau yn gwahardd codi tâl mynediad i’w gemau.

Mewn undod mae nerth

Cafwyd ymateb chwyrn gan y cyhoedd, gyda chefnogwyr ar draws y wlad yn uno i gondemnio’r penderfyniad. Daeth yn amlwg mai’r gred gyffredinol ymysg cefnogwyr oedd nad oedd gan y cynghorwyr affliw o syniad o wir farn y bobl.

Rhaid canmol ymdrechion y Prif Weithredwr, Jonathan Ford, a’r Llywydd, Trefor Lloyd Hughes. Roedden nhw o leiaf yn deall dicter y cefnogwyr. Galwon nhw gyfarfod brys o’r cynghorwyr er mwyn ceisio gwrthdroi’r penderfyniad.

A dyma ble gwelsom y gwarth mwyaf. Mewn cyfarfod i drafod un eitem benodol, dyfodol y Barri a’r Llanelli, pleidleisiodd y cynghorwyr i beidio â thrafod y pwnc o gwbl. Dyna i chi ddirmyg.

Diolch byth, enillodd y Barri achos llys yn erbyn CBDC yn hwyrach yn y mis, penderfyniad arweiniodd at eu hailosod yng Nghynghrair Cymru. Diweddglo cywilyddus a chostus i’r Gymdeithas.

Newid o’r diwedd

Yn dilyn y ffradach yna, cyhoeddodd Jonathan Ford adroddiad 100 tudalen ar strwythur a pherfformiad y Gymdeithas. Roedd y canfyddiadau yn ddamniol.

Gydag hanesion bod cynghorwyr yn cwympo i gysgu mewn cyfarfodydd a chyhuddiadau o hunan fudd, cynigodd Ford 88 o welliannau i’r system bresennol.

Dyw e ddim yn syndod mai dim ond un o’r prif gynigion gafodd ei dderbyn yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor, a chafodd hwn ei lastwreiddio.

Dim ond yn y flwyddyn 2020 y bydd pobl dros 65 oed yn cael eu gwahardd rhag dod yn aelodau, gyda’r rheiny sydd ar hyn o bryd dros 80 yn colli eu hawliau pleidleisio.

Dw i braidd yn sinigaidd, felly doedd hyn oll ddim yn fy nghyffroi. Roedd fel petai’r cynghorwyr ond yn ceisio amddiffyn eu breintiau eu hunain.

Ond daeth newyddion ychydig yn fwy cadarnhaol ddoe wrth i’r Cyngor gwrdd i drafod gweddill cynigion y Prif Weithredwr. O hyn ymlaen bydd tri bwrdd yn cymryd lle’r Cyngor, gyda phanel ychwanegol i oruchwylio eu gwaith.

Bydd y tri bwrdd yn delio gydag agweddau gwahanol o’r gêm yng Nghymru. Mae i weld, felly, y bydd breintiau’r cyngor yn cael eu hamddiffyn ond, diolch byth, bydd eu grym yn diflannu a bydd y gêm yn fwy diogel yn nwylo pobl fwy proffesiynol gydag elfen o atebolrwydd.

Dim eiliad yn rhy fuan

Bu angen newid y ffordd ry’n ni’n rhedeg pêl-droed yma yng Nghymru ers achau. Ry’n ni wedi gorfod dioddef y deinosoriaid amaturaidd yma am yn rhy hir.

Dyw’r newidiadau dal ddim yn mynd yn ddigon pell ond maen nhw’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir. Cawn weld pa mor effeithiol ydyn nhw.

Rhaid i ni nawr edrych ymlaen at y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ ym mis Mawrth. Mae’n siomedig ei fod yn cael ei chwarae ar yr un dydd a gêm y tîm dan-21 yn erbyn Lloegr.  Ond cam wrth gam fuodd hi erioed gyda phêl-droed Cymru.

Gallwch ddilyn Rhys ar Twitter ar @HartleyR27.