Owain Gwynedd sydd yn gwylltio wrth i’r ffrae rhwng yr Undeb Rygbi a’r rhanbarthau barhau i rygnu …
Mae penwythnos y Cwpan Heineken yn ôl. Fel arfer fe fydd y pythefnos nesa’n cael ei weld fel rhagbrofion terfynol ar gyfer carfan Cymru, ac yn benodol y pymtheg fydd yn dechrau yn erbyn Yr Eidal ar Chwefror y 1af.
Ond yn groes i’r arfer tydi’r chwyddwydr ddim yn canolbwyntio ar unigolion, ond ar gyflwr y gêm broffesiynol yng Nghymru.
Mae o yn fy ngwylltio i i’r craidd i weld mai ni ein hunain, y Cymry, sydd unwaith eto yn dinistrio dyfodol ein camp.
Beth bynnag ydi’r gwir a phwy bynnag sydd ar fai am adael pethau lithro i ddyfnderoedd tywyllaf hanes y gêm, y gwir yw does fawr o ots bellach heblaw’r ffaith syml iawn bod angen ysgwyd y ddau ochr, cael nhw i eistedd i lawr, a thrafod a sortio’r llanast mor fuan â phosib.
Y mwyaf o amser sydd yn mynd heibio, y mwyaf o niwed sydd yn cael ei wneud yn ariannol i’r gêm, i’r chwaraewyr sydd dal yma ar hyn o bryd, y niferoedd o gefnogwyr ac yn bwysicach oll i ddyfodol y gêm broffesiynol yn ei chyfanrwydd.
Drygioni’r ddwy ochr
Mae clywed straeon nad yw Undeb Rygbi Cymru yn barod i drafod unrhyw beth o’r Cytundeb Cyfranogiad yn siomedig ac y dangos diffyg synnwyr cyffredin.
Mi oedd y cynllun o gynnig cytundebau canolog ac yna llogi’r chwaraewyr yna i glybiau Lloegr yn dwp ac yn sbeitlyd o ran yr Undeb hefyd.
Ar y llaw arall, os oes diffyg arian yn y rhanbarthau i gystadlu â phrif glybiau Ewrop, sut mae’r Dreigiau wedi llwyddo i gadw gafael ar Toby Faletau a’r asgellwr a’r cefnwr rhyngwladol Aled Brew, yn ogystal â denu Lee Byrne?
Yn achos Byrne mae’r Dreigiau wedi arwyddo un o gefnwyr gora’r Top 14 yn Ffrainc os nad Ewrop. Ella mai lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ydi gobaith Byrne.
Felly i rywun o’r tu allan mae yna fai ar y ddwy ochr. Hefyd rhaid rhoi rhywfaint o’r bai a phwyntio’r bys at y cefnogwr am beidio â chefnogi eu rhanbarthau yn gyson. Dydyn ni ddim ond i’w weld yn ddigon parod i fynd i wylio’r gemau darbi.
Darlledwyr ar fai
Rhywun arall rhaid ysgwyddo’r baich am beidio sortio pa gystadlaethau oedd am fodoli tymor nesa yw BT Sport.
Y nhw sydd wedi cynnig arian mawr er mwyn trio creu cystadleuaeth Ewrop neu’r Bencampwriaeth Rygbi er mwyn ei darlledu ar ei sianel. Pe bai cytundebau trwyadl wedi eu cynllunio mwy nag wyth mis cyn dechrau tymor nesa ni fyddai clybiau Lloegr na Chymru yn y trafferthion funud olaf maen nhw rŵan.
Mae penderfyniad y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol i beidio â chefnogi syniad y rhanbarthau o greu cystadleuaeth eu hunain, ‘Y Bencampwriaeth Rygbi’, i raddau yn fendith. Mae’n gadael un opsiwn yn unig i’r rhanbarthau a hynny yw derbyn beth bynnag yw’r ail gynnig gan Undeb Rygbi Cymru.
Yn ariannol dylai fod yn llawer mwy na hynny sydd wedi ei gynnig yn barod, ond ar y cae fydd y rhanbarthau yn parhau i chwarae yn y Cwpan Heineken a’r Pro 12.
Unwaith mae’r ddau yn gytûn gall cynlluniau gael eu gwneud i gadw’r hynny o chwaraewyr rhyngwladol sydd ar ôl yma yn ein rhanbarthau.
Rhaid derbyn bod y rhanbarthau angen fwy o arian i ariannu’r busnes.
OS fydd y ddwy ochr dal yn anhapus, wel dyna fydd yr adeg i drafod a chynllunio’r cytundeb a chystadlaethau canlynol.
Gallwch ddilyn Owain ar Twitter ar @owaingwynedd.