Angel Rangel
Mae amddiffynnwr Abertawe Angel Rangel yn disgwyl un o gemau anodda’r tymor yn Old Trafford amser te yfory.

Mi gafodd yr Elyrch eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Old Trafford ddydd Sul diwethaf yng Nghwpan yr FA.  Er hynny a’r ffaith bod Manchester United wedi colli tair gêm o’r bron mae amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel yn dweud bydd y gêm yn un anodd iawn.

‘‘Mae gan Manchester United chwaraewyr arbennig o dda sydd wedi chwarae yng Nghwpan y Byd a Chynghrair y Pencampwyr yn ogystal ac ennill yr Uwch Gynghrair.  Nid yw pethau wedi bod yn rhwydd iddynt y tymor hwn ond mae digon o brofiad yn y tîm,’’ meddai Rangel.

‘‘Nid ydym wedi ennill yno yn y gynghrair ond gobeithio y medrwn fod mor effeithiol ddydd Sadwrn ag yr oeddem yn y gêm Gwpan Dydd Sul,’’ ychwanegodd.

Ond mewn rhywfaint o newyddion da i Abertawe mae’n ymddangos na fydd ymosodwr Man United Wayne Rooney ar gael i’w hwynebu nhw yfory, wedi iddo fethu a gwella o anaf mewn pryd.