Solskjaer
Mae disgwyl i ymosodwr West Ham, Andy Carroll, fod yn holliach i wynebu Caerdydd y penwythnos yma ar ôl gwella o anaf i’w droed.

Gyda’r ddau dîm yn targedu hon fel gêm hanfodol i’w hennill, mae Caerdydd un safle ac un pwynt yn unig uwchben y safleoedd syrthio yn yr Uwch Gynghrair, a West Ham yn gorwedd yn 19eg, tri phwynt y tu ôl iddyn nhw.

Gall Caerdydd fod yn dawel hyderus o fuddugoliaeth gartref yfory – gyda’u gwrthwynebwyr ar rediad trychinebus ar hyn o bryd ac eisoes wedi ildio 11 gôl mewn dwy gêm gwpan yr wythnos hon.

Mae’r canlyniadau sâl wedi cynyddu’r pwysau ar eu rheolwr Sam Allardyce, ac felly fe fydd yn rhaid i Gaerdydd fod yn wyliadwrus o Carroll sydd yn dychwelyd i dîm yr Hammers i geisio achub eu tymor.

Dyw’r ymosodwr heb chwarae’r un gêm hyd yn hyn y tymor yma, ond ar ôl gwella o’i anaf fe fydd y gŵr mawr a arwyddwyd am £15m o Lerpwl yn yr haf yn ysu i greu argraff.

Eikrem ar gael

Bydd chwaraewr canol cae newydd Caerdydd, Magnus Wolff Eikrem, hefyd yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf ar ôl arwyddo o Heerenveen yn ystod yr wythnos.

Cafodd y gŵr 23 oed o Norwy ei ddisgrifio gan y rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer fel ‘quarterback’ pan gafodd ei arwyddo, gyda’r gobaith y bydd yn medru cymryd awenau creadigol y tîm.

Mae’r clwb dal yn disgwyl i weld a fyddan nhw’n llwyddo i arwyddo’r chwaraewr canol cae 18 oed Mats Moller Daehli o Molde mewn pryd ar gyfer gêm y penwythnos.

Fodd bynnag mae Jordon Mutch, Andrew Taylor a Kevin Theophile-Catherine yn parhau i ddiodde’ anafiadau – gan olygu ei bod yn debygol y bydd y Cymro Declan John yn cadw’i le yn amddiffynnwr chwith ar gyfer y gêm.

Bydd Craig Bellamy o bosib hefyd ar gael i wynebu West Ham, wedi iddo ymarfer yr wythnos hon yn dilyn trafferthion gyda’i ben-glin.

Mae’n bosib y bydd Bellamy a John yn wynebu’u cyd-Gymro Jack Collison yn rhengoedd y gwrthwynebwyr – ond ni fydd James Collins ar gael chwaith oherwydd anaf.