Ryan Giggs
Fe ddylai Ryan Giggs roi’r gorau i chwarae pêl-droed, meddai ei gyn gyd-chwaraewr Cymreig, Robbie Savage.
Wrth ddweud y dylai ei hen glwb, Man Utd, gael gwared ar 12 o chwaraewyr, mae’r sylwebydd dadleuol yn cynnwys y chwaraewr canol cae.
Er mai Giggs yw “y chwaraewr gorau erioed yn yr Uwch Gynghrair”, mae Savage yn dweud y dylai fynd.
Fe allai aros yn ei waith yn hyfforddwr ac fe allai fod yn rheolwr nesa’ United ond ddylai o ddim chwarae y tymor nesa’.
“Os ydyn nhw am ddibynnu ar ddyn 41 oed i gyflawni pethau y tymor nesa’, dydi hynny ddim yn dweud llawer am weddill y chwaraewyr canol cae,” meddai.
‘Saith cyfle’
Yn ei golofn ar wefan y BBC, mae’n honni mai dim ond saith cyfle sydd wedi eu creu gan Giggs y tymor yma, a hynny heb arwain at yr un gôl.
Fe gafodd ei glodfori am fod yn chwaraewr gorau’r gêm fwy nag unwaith ddechrau’r tymor ond yn y gêm ddiwetha’, fe sgoriodd yn ei rwyd ei hun, taro’r bar a chael ei ddal yn camsefyll i atal gôl gan Man Utd.