Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.
Cadarnhad
Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala)
Clecs
Mae Abertawe nawr wedi cytuno ar ffi o £200,000 gyda Hearts am y chwaraewr ifanc Adam King, gyda’r clwb o’r Alban yn dynn am arian ac yn fodlon gwerthu – ond y llanc 18 oed eisiau aros ble y mae tan ddiwedd y tymor (Evening Express)
Mae Caerdydd nawr wedi gwneud cynnig cadarn am ymosodwr Hannover Mame Biram Diouf, gyda’r clwb hefyd yn gobeithio cadarnhau llofnod Mats Moller Daehli cyn eu gêm yn erbyn West Ham ar y penwythnos (Guardian)
Mae Hannover hefyd yn ymddangos fel eu bod yn paratoi am weddill y tymor heb Diouf, ar ôl arwyddo’r ymosodwr Artjoms Rudnevs o Hamburg (Daily Mail)
Ond fe fydd yr Adar Gleision yn cael eu siomi ar ôl i un o’u targedau nhw, yr Americanwr Michael Bradley, benderfynu symud o Roma i Toronto am £6m (insidefutbol.com)
Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup yn gobeithio gallu arwyddo chwaraewr canol cae ar fenthyg fyddai’n medru cael yr un math o effaith ac y cafodd Gylfi Sigurdsson ddwy flynedd yn ôl (WalesOnline)
Dyw Laudrup, ar y llaw arall, ddim wedi datgelu a ydi Abertawe’n parhau i fod mewn trafodaethau gyda Blackpool ynglŷn ag arwyddo’r asgellwr Tom Ince (BBC Sport)
Ond fydd Laudrup ddim yn galw Ki Sung-Yeung yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Sunderland er gwaethaf anafiadau i nifer o’i garfan (South Wales Evening Post)
Ac mae Caerfyrddin yn disgwyl am y golau gwyrdd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru cyn iddyn nhw allu enwi’u hymosodwr newydd Keyon Reffel yn y garfan i wynebu Bala yng Nghwpan Word y penwythnos yma (South Wales Evening Post)
Y ffenestr hyd yn hyn
Rene Howe (dim clwb i Gasnewydd)
Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg
Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu
Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg
Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg
Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi
Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg
Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)
Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)
Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)
Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)
Sean Thornton (dim clwb i Bala)
Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)
Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)
Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)
Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)
Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)
Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)