Paul John
Mae Pontypridd yn wynebu “gêm enfawr” wrth deithio i Lundain ddydd Sul, meddai eu hyfforddwr.
Fe allai eu darbi Gymreig yn erbyn Cymry Llundain benderfynu pwy sy’n mynd trwodd i chwarteri’r Cwpan Prydeinig a Gwyddelig.
Yn eu grŵp nhw, dim ond dau bwynt y tu ôl i Ponty yw’r Cymry alltud – mae Pontypridd ar y brig gyda’r un nifer o bwyntiau ag Albanwyr Llundain.
Sylwadau Paul John
‘‘Mae hon yn gêm enfawr i ni. Ar ôl colli i Albanwyr Llundain mae’n rhaid ennill hon,” meddai hyfforddwr Pontypridd, Paul John.
“Heb amheuaeth fe fydd yn gêm anodd ac fe fydd tîm Justin Burnell am dalu’r pwyth yn ôl ar ôl colli yn Heol Sardis nôl ym mis Hydref.
“Bydd eisiau i’n chwaraewyr a’n cefnogwyr fod ar ein gorau.’’