Mae prif hyfforddwr Cross Keys Greg Woods yn hyderus y gall ei dîm gyrraedd rownd y cwarteri o’r Cwpan Prydeinig a Gwyddelig wrth iddyn nhw ymarfer ar gyfer y gêm yn erbyn Ealing Trailfinders ddydd Sadwrn.

Dim ond pedair gêm y mae Cross Keys wedi eu colli yn ystod y tymor ac few wnaethon nhw gyrraedd ail rownd cwpan Swalec y penwythnos diwethaf trwy guro Castell Nedd 23-17.

‘‘Mae angen deg pwynt arnon ni o’r ddwy gêm nesaf ac fe fydd yn anodd gan fod Ealing yn dîm da,” meddai Greg Woods.

“Maen nhw wedi curo Moseley a Nottingham yn ystod y mis diwethaf, ond fe fydd gyda ni’r fantais o chwarae gartref.”

Wedi ennill unwaith

Fe lwyddodd Cross Keys i guro’r Trailfinders mewn gêm oddi cartref yn gynharach yn y tymor o 24-15.

Mae Woods o’r farn y gallai ei dîm ennill y gynghrair eleni hefyd er mae’n cyfaddef bod dipyn o ffordd i fynd eto a llawer o waith i’w wneud.