Neuadd y Sir Caerfyrddin
Mae clybiau chwaraeon yn gwrthwynebu penderfyniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i wneud iddyn nhw dalu am gynnal caeau chwarae a chyfleusterau eraill.

Ac mae un o’r arweinwyr wedi rhybuddio y gallai clybiau ddiflannu oherwydd y gost ychwanegol.

”Rwy’n derbyn bod y Cyngor Sir yn gorfod gwneud toriadau ond, ar yr un pryd, yn poeni’n fawr am yr effaith a gaiff hyn ar y clybiau pêl-droed lleiaf. Rwy’n ofni y bydd llawer ohonynt yn diflannu fel canlyniad i hyn,” meddai Robert Culley, Trysorydd Adran Iau Pêl-droed Rhydaman.

‘Chwarae teg’ meddai’r cyngor

Yn ôl y cyngor sir, mae’n fater o degwch gyda 70 o glybiau yn y sir yn gyfrifol am eu cyfleusterau eu hunain tra bod y cyngor yn cynnal adnoddau 60 arall.

Yn ôl swyddogion, mae cyfarfodydd wedi eu cynnal yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ drwy’r sir i egluro’r sefyllfa ac y bydd cynllun tair blynedd yr awdurdod yn sicrhau bod holl pawb yn cael eu trin yn yr un ffordd.

‘‘Ein bwriad yw fod pob cymdeithas chwaraeon yn cael yr un chwarae teg.  Mae yna anghysondeb wedi bod fel y cafodd rhai clybiau eu trin,’’ dywedodd Kevin Madge, arweinydd y Cyngor.

B

Ond, yn ôl rhai o’r clybiau, mae yna les ehangach yn dod o’r gwario.

”Fe ddylai’r cyngor dalu am y cyfleusterau chwaraeon ac wrth wneud hynny byddent o gymorth i’r pentref ac i’r gymuned,” meddai Emyr Wyn Jones.Ysgrifennydd Clwb Rygbi Llandybie.

Y prisiau

Dyma ddwy enghraifft o sut y bydd y penderfyniad yn effeithio ar glybiau.

Fe fydd prisiau ar gyfer pêl-droed i chwaraewyr iau yn codi o £9 yn nhymor 2013-14 i £13.50 ar gyfer tymor 2014-15 a bydd prisiau criced i chwaraewyr iau yn codi o £7 yn nhymor 2013-14 i £14 ar gyfer tymor 2014-15.