Mae Comisiynydd yr NFL, Roger Goodell wedi datgan eto ei ddymuniad i gyflwyno tîm o Lundain i’r gynghrair a hefyd mae’n edrych i weld beth yw’r posibilrwydd o fynd i Los Angeles.
Mae Goodell wedi bod yn hapus iawn gyda’r ymateb sydd wedi bod i’r gyfres o gemau rhyngwladol sydd wedi eu cynnal yn Stadiwm Wembley, ac mae yna dair gêm wedi eu trefnu yn Lloegr y flwyddyn nesaf.
Mae Goodell wedi cyfaddef y gallai’r gefnogaeth sydd i’r gamp arwain at Lundain yn cael tîm NFL ei hunain. Dywedodd Goodell y byddai yn hoffi gweld y gamp yn llwyddo yn Llundain a Los Angeles.
Mae pob gêm yn Wembley wedi cael torfeydd o tua 80,000 ac er bod y diddordeb yna ar hyn o bryd efallai y byddai’r diddordeb yn lleihau os byddai gemau cyson yno.
‘‘Un peth da am yr NFL yw bod pob tîm yn dechau’r tymor gyda gobaith,’’ meddai Goodell.
Wrth siarad yn Efrog Newydd cyn gêm gyntaf y tywydd oer o’r Super Bowl ar 2 Chwefror dywedodd Goodell y byddai’n edrych am roi cyfle i ddinasoedd eraill gyda thywydd oer i gynnal ac i ddatblygu’r gamp.