Mae cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, David Moffett wedi dweud ei fod am ymgeisio i fod ar y bwrdd rheoli unwaith eto.
Ar hyn o bryd mae’r Undeb a’r Rhanbarthau benben a’i gilydd wrth drafod cyllid, a’r ffaith bod nifer o chwaraewyr Cymru yn gadael i chwarae yn Lloegr neu dramor.
‘‘Mae’r cweryla a’r dadlau yn gywilydd cenedlaethol,’’ dywedodd Moffett.
Gadawodd Moffett ei swydd fel prif weithredwr ym mis Rhagfyr 2005. Y prif weithredwr presennol Roger Lewis a’i olynodd yn y swydd ym mis Hydref 2006.
Ar ôl beirniadu’r ffordd yr oedd Lewis yn gweithredu fe ddychwelodd Moffett fel Prif Weithredwr Rhanbarthau Rygbi Cymru. Bu yna ddadlau ynglŷn â rhyddhau chwaraewyr ar gyfer sesiynau ymarfer gyda’r tîm cenedlaethol. Fe enillodd yr Undeb yr achos yn yr Uchel Lys ac fe adawodd Moffett y swydd ym mis Mai 2009.
Dywedodd Moffett ei fod yn bwriadu dychwelyd i Gymru ac am ymgeisio am sedd ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru. Yn ôl Moffett os byddai’r bleidlais o ddiffyg hyder yn yr aelodau presennol o’r Undeb byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo. Byddai hynny yn golygu y byddai’n rhaid i’r Cadeirydd David Pickering ymddiswyddo hefyd a gadael i ymgeiswyr newydd oruchwylio gwaith Roger Lewis.