Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Cadarnhad

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Clecs

Islam Slimani yw’r enw diweddaraf i gael ei gysylltu gyda Chaerdydd, gyda’r ymosodwr 25 oed o Sporting Lisbon ddim yn chwarae yn rheolaidd ar hyn o bryd – ond mae West Ham hefyd yn dangos diddordeb (talksport)

Mae rheolwr Hannover Tayfun Korkut wedi cwestiynu a fydd Caerdydd yn llwyddo i arwyddo’r ymosodwr 26 oed Mame Biram Diouf, sydd wedi sgorio 32 gôl mewn 64 gêm, ar ôl dweud y byddai cael rhywun newydd yn ei le yn anodd (goal.com)

Ond mae Caerdydd wedi gwneud eu diddordeb yn swyddogol bellach ac yn gobeithio arwyddo’r cyn-ymosodwr Man United am £2.5m, gyda llywydd Hannover Martin Kind yn fodlon ystyried cynnigion (WalesOnline)

Gall arwyddo’r chwaraewr canol cae newydd Magnus Wolff Eikrem fygwth dyfodol Peter Whittingham gyda Chaerdydd, wrth i’r ddau gystadlu i fod yn ganolbwynt creadigol y tîm (WalesOnline)

Mae’r ymosodwr Nicky Maynard yn debygol o gael caniatâd gan Gaerdydd i fynd ar fenthyg am weddill y tymor, gyda nifer o glybiau yn y Bencampwriaeth gan gynnwys Wigan yn awyddus i’w arwyddo (Daily Mirror)

Nid Maynard yw’r unig ymosodwr o Gaerdydd sydd yn denu sylw’r Bencampwriaeth chwaith – mae gan Brighton ddiddordeb mewn arwyddo Joe Mason a’r asgellwr Craig Conway ar fenthyg (The Argus)

Mae Abertawe yn hyderus eu bod nhw’n ffefrynnau i arwyddo Tom Ince o Blackpool am ffi o tua £4m, er bod Caerdydd a Crystal Palace nawr wedi ymuno yn y ras am ei lofnod (Guardian)

Ond yn ôl cadeirydd Abertawe Huw Jenkins, dyw’r clwb ddim yn agos i arwyddo’r asgellwr 21 oed ar hyn o bryd – er iddo gyfaddef fod ganddynt ddiddordeb mawr yn y chwaraewr (talksport)

Mae Huw Jenkins hefyd wedi wfftio awgrymiadau fod Abertawe eisiau arwyddo Wilfried Zaha ar fenthyg o Man United, ac mae bellach yn ymddangos mai Caerdydd, Newcastle ac Everton yw’r ffefrynnau (ESPN)

Abertawe yw’r clwb diweddaraf i edrych ar y chwaraewr canol cae ifanc Jay Fulton o Falkirk, gyda’r llanc 19 oed bron a symud i Bolton fis diwethaf am £250,000 (Herald Scotland)

Mae Casnewydd yn gobeithio cyhoeddi’u bod nhw am arwyddo ymosodwr newydd heddiw – wrth iddyn nhw benderfynu sut i ddelio gydag Aaron O’Connor, a drydarodd negeseuon ddoe yn beirniadu’r gofal meddygol y mae wedi bod yn ei gael gan y clwb dros y misoedd diwethaf (South Wales Argus)

Y ffenestr hyd yn hyn

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)