Aled Brew
Mae’r Dreigiau wedi cadarnhau y bydd y Cymry Lee Byrne ac Aled Brew yn dychwelyd o Ffrainc ac yn ymuno â’r rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Bu’r ddau chwaraewr mewn trafodaethau yn ystod yr wythnos i gwblhau’r symudiad, ac fe fyddan nhw nawr yn chwarae ar faes Rodney Parade i dîm Lyn Jones y tymor nesaf.

Mae Byrne, sy’n 33 oed bellach, yn chwarae i Clermont Auvergne ar hyn o bryd, tra bod Aled Brew yn ei ail dymor gyda Biarritz ar ôl symud yno o’r Dreigiau yn 2012.

Ac mae’r hyfforddwr Lyn Jones wedi dweud ei fod yn falch tu hwnt fod y ddau gefnwr rhyngwladol wedi mynd yn groes i’r llif a phenderfynu dychwelyd i chwarae’u rygbi yng Nghymru.

“Rwyf wrth fy modd gallu arwyddo rhywun gyda phrofiad a chalibr Lee,” meddai Jones. “Mae wedi profi’i hun ym Mhrydain a Ffrainc fel rhif 15 penigamp.

“Mae nifer dal yn y gêm dal yn credu mai Lee yw’r 15 gorau yn y DU. Fe fydd hefyd yn medru helpu datblygu Hallam Amos fel rhif 15 i Gymru yn y dyfodol.

“Mae Aled wedi dangos awch i ddychwelyd i’w gartref naturiol gyda’r Dreigiau ble’r oedd yn boblogaidd iawn gyda’r cefnogwyr yn y gorffennol ac wedi profi’i hun yn sgoriwr ceisiau gwych.

“Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn chwarae unwaith eto yn Rodney Parade.”

Hapus eu byd

Dywedodd Byrne ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru ac i weithio gyda Jones, ei gyn-hyfforddwr gyda’r Gweilch, gan alw cefnogwyr Rodney Parade “y rhai gorau yng Nghymru”.

Ac yn ôl Aled Brew, a sgoriodd 43 cais mewn 108 gêm i’r Dreigiau cyn gadael, roedd ei gyfnod yn Ffrainc wedi gwella ef fel chwaraewr.

“Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn Ffrainc yn fawr ac yn hoffi meddwl mod i wedi dysgu llawer yn ystod fy nghyfnod yn Biarritz a fy mod i wedi dod yn chwaraewr gwell o’i herwydd,” meddai Brew.

“Dwi ddim yn difaru fy nghyfnod yn Ffrainc, mae wedi bod yn brofiad gwych ond rwy’n teimlo mai dyma’r amser iawn i ddychwelyd adref i mi a’m teulu.

“Dwi dal eisiau chwarae dros Gymru ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i mi chwarae bob wythnos, a dyna beth rwyf eisiau gwneud gyda’r Dreigiau.”