Magnus Wolff Eikrem gyda'r rheolwr, Ole Gunnar Solskjaer
Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae o Norwy Magnus Wolff Eikrem o glwb Heerenveen yn yr Iseldiroedd.

Dyw’r clwb heb gadarnhau’r ffi derfynol a dalwyd am y chwaraewr 23, sydd â 13 o gapiau dros Norwy, ond mae sôn bod y swm oddeutu £2m.

Mae disgwyl i’r clwb hefyd gadarnhau eu bod wedi arwyddo chwaraewyr canol cae arall o Norwy, Mats Moller Daehli, yn yr oriau nesaf. Mae’r llanc 18 oed yn chwarae i Molde ar hyn o bryd.

Bydd Eikrem yn gwisgo’r crys rhif 15, ac fe fydd ar gael ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn West Ham ddydd Sadwrn.

Dawn pasio

Roedd Eikrem yn gyn-chwaraewr o dan y rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer pan oedd yn Man United a Molde, ac fe symudodd i’r Iseldiroedd yn yr haf.

Ac wrth gyflwyno’n dyn newydd fe ddisgrifiodd Solskjaer steil chwarae Eikrem fel un tebyg i ‘quarterback’ mewn pêl-droed Americanaidd.

“Rwyf wedi nabod Magnus ers blynyddoedd, ar ôl gweithio gydag ef yn Manchester United ac wedyn ei arwyddo i Molde,” meddai Solskjaer.

“Pan oeddwn i yno roedd rhaid i mi ei werthu gan mai ef oedd ein chwaraewr gorau – a nawr rwy’n teimlo’n lwcus o fod wedi’i arwyddo i Gaerdydd am bris rhesymol. Rwy’n gweld hyn fel arian wedi’i wario’n dda.

“Mae’n chwaraewr creadigol, ‘quarterback’ os hoffech chi, rhywun sy’n hoffi bod ar y bêl a gweld pas.

Mae’n dda iawn yn dechnegol, gan gynnwys o giciau rhydd, ac mae ganddo weledigaeth dda. Bydd Magnus yn ychwanegu lot i Gaerdydd ac fe fydd yn gweddu’n dda gyda’r chwaraewyr canol cae eraill yn y garfan.”