Mae Jordan Ponticelli wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn barhaol am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Treuliodd y chwaraewr 21 oed gyfnod ar fenthyg gyda’r clwb cyn y cyfnod clo, gan sgorio dwy gôl mewn pum gêm.

Mewn pedair blynedd gyda Coventry, sgoriodd e chwe gôl mewn 30 o gemau.