Mae angen i dîm criced Morgannwg ddechrau o’r dechrau, yn ôl eu prif hyfforddwr newydd.
Awgryma Grant Bradburn, fu’n siarad â’r BBC ddyddiau ar ôl cael ei benodi i olynu Matthew Maynard a Mark Alleyne fu’n rhannu’r swydd y tymor diwethaf, y bydd yn gwneud hynny drwy gyfuniad o recriwtio a datblygu chwaraewyr drwy rengoedd y sir.
Mae Alleyne am barhau’n is-hyfforddwr o dan arweiniad y gŵr o Seland Newydd, fu’n hyfforddi ym Mhacistan a’r Alban, ynghyd â’i famwlad yn y gorffennol.
Yn ôl Bradburn, mae gan y garfan “gymaint o sgiliau”, ond dywed nad yw’r tîm “wedi cael effaith lawn y sgiliau hynny dros y blynyddoedd diwethaf”.
Dywed bellach fod angen “llygaid ffres” ar y sefyllfa, a daw hynny yn sgil sylwadau gan rai cefnogwyr fod gormod o gyn-chwaraewyr y sir wedi’u penodi i swyddi uwch.
“Mae wir yn ddechreuad ground zero i bawb,” meddai.
“Yn amlwg, enillon ni dlws undydd ychydig flynyddoedd yn ôl [yn 2021], ond byddwn i wrth fy modd o gael dod â llygaid ffres i mewn.
“Dw i eisoes wedi dechrau rhyngweithio â’r chwaraewyr, ond dw i hefyd yn awyddus i gael fy nhraed ar y ddaear a gweld drosof fi fy hun lle mae ein cryfderau ni, ac adeiladu go iawn ar y cryfderau hynny, a dyna’r math o hyfforddwr ydw i.
“Ond hefyd, yn gyflym iawn ynghyd â’r staff, adnabod lle mae ein bylchau ni a lle mae angen i ni gau’r bylchau hynny, ac o bosib recriwtio a datblygu mwy o chwaraewyr drwy ein system ni.”