Mae Clwb Pêl-droed y Drenewydd wedi cyhoeddi bod eu rheolwr Chris Hughes wedi gadael y clwb ar ôl degawd.

Dywed y clwb fod y penderfyniad yn “nodi diwedd cyfnod arwyddocaol” iddyn nhw, gan iddo fod yn “allweddol” wrth sefydlu lle’r clwb yn y Cymru Premier.

“Trwy ei arweiniad, mae’r tîm wedi cyflawni perfformiadau cyson, gyda’r tîm yn aml yn gorffen ymhlith chwech ucha’r gynghrair a phrofi pêl-droed Ewropeaidd dair gwaith,” meddai datganiad y clwb.

Maen nhw’n dweud bod ei gyfraniadau “wedi gadael effaith hirdymor ar y clwb”, a bod “parch a gwerthfawrogiad mawr” i’w waith.