Mae chwaraewr rygbi o Ffiji wedi’i garcharu am gyfres o ymosodiadau rhyw ar dair dynes yng Nghaerdydd.

Yn Llys y Goron Caerdydd, plediodd Api Ratuniyarawa o Swydd Northampton yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod drwy dreiddiad ac un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol.

Digwyddodd yr ymosodiadau rhwng Hydref 31 a Thachwedd 1 y llynedd.

Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a deng mis, ac mae disgwyl iddo dreulio hanner y ddedfryd dan glo cyn cael ei ryddhau ar drwydded.

Cyn yr ymosodiadau, roedd disgwyl iddo fe chwarae i’r Barbariaid yn erbyn Cymru yn Stadiwm Principality ar Dachwedd 4.

Bu’n derbyn budd-daliadau ers i’w glwb, Gwyddelod Llundain, fynd i’r wal.