Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd y rheolwr newydd Luke Williams.

Cafodd ei benodi’r wythnos hon i olynu Michael Duff, gan ddychwelyd i’r clwb lle’r oedd e’n is-reolwr o dan Russell Martin yn ystod tymor 2021-22.

Fe adawodd e dîm Notts County mewn sefyllfa gref yn dilyn cyfnod llwyddiannus wrth y llyw yno.

Roedd e wrth y llyw am y tro cyntaf yn Abertawe wrth i’r Elyrch guro Morecambe o 2-0 yng Nghwpan FA Lloegr y penwythnos diwethaf.

Yn ôl Grimes, bydd ei egni a’i frwdfrydedd o fudd mawr i’r Elyrch, yn ogystal â’i addewid i adfer hunaniaeth y tîm ac i chwarae pêl-droed ymosodol.

“Mae Luke yn hyfforddwr o’r radd flaenaf,” meddai’r capten.

“Mae e wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus o’r blaen, ac yn amlwg roedd e’n is-reolwr yma ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Dw i’n gwybod beth mae’n ei gynnig, ac ar ôl un sesiwn roeddech chi eisoes yn gallu gweld rhai o’r pethau roedden ni’n gweithio arnyn nhw.

“Mae’n wych ei gael e’n ôl.

“Mae e’n frwdfrydig iawn, yn ymarferol iawn, ac mae e jyst yn rhoi egni i chi.

“Mae e’n rhoi cymaint o hyder i chi yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, a’r hyn mae e’n ei ddweud wrthoch chi.

“Bydd yn cymryd rhywfaint o amser, dydyn ni ddim am fod yn orffenedig ar unwaith ar ôl un sesiwn ac un gêm.

“Rydyn ni eisiau cyrraedd y fan, boed ar ôl chwe mis neu flwyddyn, lle rydyn ni’n gweithredu’n llawn ar yr hyn mae e a’i staff ei eisiau, a sut mae e eisiau chwarae.

“Dyma ddechrau’r broses, ac mae’n un sy’n ein cyffroi ni.”