Mae teyrngedau wedi’u rhoi i JPR Williams, un o sêr Oes Aur Rygbi Cymru yn y 1970au, “wnaeth drawsnewid y gêm”.
Chwaraeodd fel cefnwr i Ben-y-bont, Cymry Llundain, y Barbariaid a’r Llewod, gan ennill 55 o gapiau dros Gymru hefyd, gan arwain ei wlad sawl gwaith.
Y tu hwnt i’r cae rygbi, roedd yn chwaraewr tenis disglair yn ei ieuenctid, ac yn llawfeddyg ar ôl astudio yn Ysgol Millfield a choleg St Mary’s yn Llundain.
JPR Williams, “yn fwy na neb”, wnaeth drawsnewid safle’r cefnwr o fod yn rôl amddiffynnol i fod yn arf ymosodol, medd y sylwebydd rygbi Gareth Charles, wrth roi teyrnged iddo.
“Gallwn ni ddweud heb unrhyw amheuaeth fod JPR yn un o fawrion y byd rygbi, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n credu bod e’n cael ei adnabod jyst wrth y llythrennau JPR gan bob gwlad sydd wedi bod yn dilyn rygbi erioed.
“Mewn gwirionedd, fe yn fwy na neb wnaeth drawsnewid safle’r cefnwr o fod yn rhywbeth amddiffynnol i fod yn arf ymosodol, a’r ffaith fod e mor benderfynol ei ffordd a bod gymaint o dalent ganddo, a’i fod yn chwarae mewn tîm talentog – fe newidiodd e rygbi yn gyfangwbl.
“Fe welson ni gefnwr yn rhedeg y bêl am y tro cyntaf.
“Roedd e mor gadarn yn amddiffynnol hefyd, dan y bêl uchel, a dw i ddim yn credu bod e wedi methu tacl erioed.
“Roedd e’n chwaraewr tenis arbennig o dda, wedi ennill cystadleuaeth Brydeinig iau, yn chwaraewr squash arbennig o dda, yn chwaraewr criced, felly yn amlwg roedd ganddo fe ddawn.”
Dewrder a hunanhyder
Tri pheth oedd yn ei nodweddu oedd ei natur benderfynol, ei hunanhyder a’i ddewrder, meddai Gareth Charles, gan gofio am ambell gêm gofiadwy yn ystod gyrfa JPR Williams.
“Yn sicr, doedd diffyg hyder ddim yn broblem i JPR!” meddai.
“Roedd e’n credu’n gyfangwbl yn ei allu ei hunan, a hynny’n cael ei adlewyrchu dro ar ôl tro.
“Y peth arall oedd ei ddewrder e. Doedd e byth yn mynd i gymryd cam yn ôl – doedd dim gwahaniaeth gyda fe beth oedd yn rhaid gwneud, byddai e’n torchi’i lewys.
“Byddai e, mewn pob math o sefyllfaoedd, yn rhoi ei gorff ar y lein bob tro ac yn poeni dim am ei hunan, dim ond bod e’n gwneud beth oedd yn rhaid ei wneud i bwy bynnag oedd e’n chwarae – boed e’n Gymry Llundain, Pen-y-bont, Cymru neu’r Llewod.
“Roedd JPR yn rhywun oedd yn rhoi popeth, 100% bob tro oedd e’n mynd ar y cae.
“Roedd e’n gwbl 100% grediniol yn ei allu ei hunan, a phwy all feio fe ar ôl popeth wnaeth e gyflawni?!
“Y peth mawr fydd yn y cof, y ddelwedd, fydd y gwallt yn llifo, y sideburns mawr, y sanau rownd ei bigyrnau fe. I unrhyw gartwnydd, roedd e’n fodel perffaith.”
Enillodd y Gamp Lawn gyda Chymru dair gwaith, yn 1971, 1976 a 1978, ac roedd yn aelod o garfan y Llewod yn Seland Newydd yn 1971 ac yn Ne Affrica yn 1974, gan ennill wyth o gapiau.
Ond beth sy’n sefyll yn y cof i Gareth Charles?
“Un dacl roddodd e mewn ar asgellwr Ffrainc wnaeth ennill y Gamp Lawn i Gymru yn 1976, gôl adlam gafodd e i’r Llewod i ennill y gyfres yn 1971 – gôl adlam o hanner ffordd.
“I rywun oedd ddim yn adnabyddus am ei gicio, roedd hynny’n rhyfeddol.
“Fe drodd e at yr eisteddle a chodi’i fawd ar Bob Hiller, sef cefnwr Lloegr oedd yn nodedig am ei gicio, ac roedd pawb wedi cael eu syfrdanu fod JPR wedi gwneud y fath beth!
“Dyna’r delweddau sy’n mynd i fyw yn y cof am byth.
“Mi wnaeth e drawsnewid y gêm yn gyfangwbl, ac mae e’n haeddu ei le yn hanes rygbi.”
‘Siawns o ennill unrhyw beth’
Wrth roi teyrnged iddo, dywed Terry Cobner, Llywydd newydd Undeb Rygbi Cymru, fu’n chwarae gyda JPR dros Gymru yn y 1970au, fod y byd rygbi wedi “colli un o’i chwaraewyr gorau erioed”.
“Roedd yn graig amddiffynnol ym mhob tîm, roedd ei waith gwrthymosod yn ysbrydoledig a doedd ganddo ofn dim byd a byth yn anobeithio,” meddai.
“Er ei fod e wedi chwarae yn ystod y cyfnod amatur, roedd yn gwbl broffesiynol yn ei agwedd tuag at chwaraeon a wastad yn gyrru’r safonau wrth hyfforddi ac ar y cae.
“Gyda JPR wrth eich ochr, roedd yna wastad siawns o ennill unrhyw beth.”