Mae JPR Williams, un o sêr Oes Aur Rygbi Cymru yn y 1970au, wedi marw’n 74 oed.
Chwaraeodd i Ben-y-bont, Cymry Llundain, y Barbariaid a’r Llewod, gan ennill 55 o gapiau dros Gymru hefyd, gan arwain ei wlad sawl gwaith.
Enillodd e’r Gamp Lawn gyda Chymru dair gwaith – yn 1971, 1976 a 1978.
Roedd yn aelod o garfan y Llewod yn Seland Newydd yn 1971 a De Affrica yn 1974, gan ennill wyth o gapiau.
Y tu hwnt i’r cae rygbi, roedd yn chwaraewr tenis disglair yn ei ieuenctid, ac yn llawfeddyg ar ôl astudio yn Ysgol Millfield a choleg St Mary’s yn Llundain.
Roedd yn briod â Scilla, ac mae ganddyn nhw bedwar o blant.