Grant Bradburn, cyn-brif hyfforddwr Pacistan a’r Alban, fydd prif hyfforddwr newydd Clwb Criced Morgannwg, ar ôl llofnodi cytundeb tair blynedd.

Mae’r sir Gymreig wedi bod yn chwilio am brif hyfforddwr newydd yn dilyn ymadawiad Matthew Maynard ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Ar ôl hollti swydd y prif hyfforddwr dros y tymhorau diwethaf, mae Morgannwg wedi penderfynu y bydd y prif hyfforddwr newydd yn gyfrifol am y tîm ym mhob cystadleuaeth yn 2024.

Mae disgwyl i Mark Alleyne, yr hyfforddwr gafodd ei benodi i ofalu am y tîm mewn gemau undydd, barhau yn aelod o’r tîm hyfforddi newydd.

Roedd nifer o enwau eraill wedi’u cysylltu â’r swydd yn ddiweddar, gan gynnwys Paul Tweddle a Paul Franks.

Mae’n gyfnod cythryblus i’r sir ar hyn o bryd, ar ôl colli eu capten David Lloyd i Swydd Derby, ac mae adroddiadau bod y bowliwr cyflym tramor profiadol Michael Neser ar fin ymuno â Hampshire y tymor nesaf.

Gyrfa

Roedd Grant Bradburn yn brif hyfforddwr Pacistan yn ystod 2023, ar ôl cyfnodau gyda’r Academi Griced Genedlaethol yn Lahore ac yn is-hyfforddwr o 2018 cyn hynny.

Chwaraeodd e mewn saith gêm brawf ac unarddeg o gemau undydd dros Seland Newydd rhwng 1990 a 2001, cyn dod yn brif hyfforddwr Northern Districts yn ei famwlad yn 2008.

Enillodd e ddau dlws pedwar diwrnod a dau dlws undydd dros gyfnod o bum mlynedd wrth y llyw, cyn dod yn brif hyfforddwr tîm dan 19 a thîm ‘A’ Seland Newydd rhwng 2013 a 2014.

Daeth yn brif hyfforddwr yr Alban rhwng 2014 a 2018, a fe guron nhw Loegr mewn gêm undydd yn 2018.

‘Braint ac anrhydedd’

“Mae cael y cyfle i hyfforddi Morgannwg yn anrhydedd enfawr ac yn fraint,” meddai Grant Bradburn.

“Dw i wedi cyffroi o gael ymuno â’r garfan cyn bo hir i gwblhau camau ola’r paratoadau cyn tymor 2024 gyda’n gilydd.

“Fy nod syml yw creu amgylchfyd buddugol gyda diwylliant arbennig.

“Gyda’n gilydd, byddwn ni’n adnabod brand o griced ym mhob fformat yn gyflym iawn fydd yn bwysicaf oll yn ysbrydoli’r chwaraewyr ac, yn ei dro, yn denu pawb o fewn y clwb i fod wedi cyffroi a theimlo’n balch o’n timau.

“Gyda phrofiad rhyngwladol ac angerdd am ddatblygu chwaraewyr a staff, dw i wir yn edrych ymlaen at ymdrochi ochr yn ochr â’n rhwydwaith o hyfforddwyr i ddatblygu chwaraewyr o safon o fewn ein rhaglenni.

“Bydda i’n dod â llygaid ffres, dw i’n credu y bydd yn iach i’r clwb.

“Dw i ddim yn derbyn y rôl hon gan ddisgwyl cystadlu ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn unig.

“Bydda i’n dod ag ysfa i Forgannwg gystadlu ym mhob fformat, a dw i’n edrych ymlaen at gwrdd â phawb yn y clwb cyn bo hir.”

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced, wedi croesawu’r penodiad.

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael hyfforddwr o safon Grant Bradburn yn ymuno â ni ym Morgannwg am o leia’r dair blynedd nesaf,” meddai.

“Mae ganddo fe ystod eang o brofiad fel hyfforddwr, ac ar draws Perfformiad Uwch, ac fe fydd yn ychwanegu cryn dipyn at y clwb o’r top i’r gwaelod.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd ar Chwefror 1.