Campweithiau'r criw fu'n creu celf
Casia William gyda’r diweddaraf gan y criw yn Nant Gwrtheyrn …

Diwrnod Chwech

Bellach mae pawb fel petai nhw wedi dod i arfer yma, ac mae rhywfaint o drefn ddyddiol wedi dechrau ffurfio. Peth cyffredin yw gweld Aled Sam yn loncian fyny’r allt gyda’r wawr – amser i feddwl am y sylwebaeth ffraeth yna siŵr o fod.

Rydw i’n cael ‘bore da!’ siriol gan y criw, staff y Nant a staff Caffi Meinir wrth i mi gyrraedd bob bore hefyd, ac mae’n gwneud i rywun feddwl sut oedd hi yma ar droad y ganrif ddwythaf, gyda dynion yn gweithio yn y chwarel, plant yn mynd i’r ysgol a’r merched yn cadw tŷ a choginio.

Ond dyna ddigon o hel meddyliau, mae yna wers ar droed, ac erbyn hyn mae budd Dadawgrymeg (dull dysgu Ioan a Nia) yn dechrau codi ei ben.

Mae Nia yn gofyn i’r wyth weiddi unrhyw eiriau Cymraeg maen nhw’n cofio ac maen nhw’n dod yn un llif, a phawb yn synnu at ei hunain.

Merch fach eofn

“You just have to go for it, that’s how you learn. That’s how I learnt English,” meddai Behnaz, sydd wedi mynd amdani trwy’r wythnos.

“Farsi is my first language and English is my second language and I made so many mistakes when I was learning English.

“But I was a really cheeky little ten year old so I would just go and say whatever and people would laugh but I just got over it. So I learned then that you just have to try and don’t be afraid to get things wrong.”

Ar ôl y wers mae’r criw yn rhannu’n ddau grŵp o bedwar ac mae H, John, Behnaz a Suzanne yn mynd i syrffio, tra bod Neville, Jenna, Siân a Sam yn cael gwers gelf gyda Catrin Williams.

Er ei bod nhw wedi dychwelyd yn damp ac yn llwglyd roedd y criw fuodd yn syrffio wedi cael croeso a modd i fyw ym Mhorth Neigwl, ac roedd y criw fu yn y gweithdy celf wedi mwynhau yn fwy na’r disgwyl.

“I don’t think I’ve done anything like that in over fifty years,” meddai Neville Southall, gan ddangos ei gampwaith i mi. Llun o Siân Reeves mae Nev wedi gwneud, ac mae’r ddau yma wedi ffurfio cyfeillgarwch annisgwyl yn ystod yr wythnos – cewch chi weld wrth wylio.

Yn y prynhawn roedd Eleri Siôn yma yn darlledu ei rhaglen Radio Wales yn fyw o’r Nant, a bu Eleri’n herio’r wyth i sgwrsio yn Gymraeg ar y rhaglen.

Treiglo!

“Shw mai? Jenna dwi, dwi’n byw yn Nhon Yr Efail.” Meddai Jenna, cyn ychwanegu, “Oh my god I even mutated there!”

Peth arall neis am Cariad@Iaith ydi bod y gyfres yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod y sêr hyn go iawn, a gweld sut bobl ydyn nhw o ddydd i ddydd, a heb os mae Jenna yn un fydd yn synnu’r cyhoedd.

Mae gwylwyr The Valleys wedi arfer gweld Jenna yn dweud ‘like’ a ‘mind’ lot fawr, ac yn dangos ei bronnau wrth gwrs, felly ai dyma mae hi wedi bod yn wneud yn y Nant?

Mae’n ddrwg gen i’ch siomi chi fechgyn, ond nage wir. Au contraire, mon ami. Ydi, mae hi’n sgrechian pan mae hi mewn mwd neu ddŵr, ond yn y dosbarth mae Jenna yn canolbwyntio, yn gwrando ac yn mwynhau’r dysgu mas draw.

Nawr bod The Valleys wedi dod i ben mae hi’n sôn am fynd yn gyfreithwraig gan wneud defnydd o’i gradd yn y gyfraith. “I’m gonna walk out in court they’re gonna think oh really, her? But they’re gonna underestimate me see!”

“You’ll be like a brunette Elle Woods babes,” meddai H wrthi gyda winc. A synnwn i daten os ydi o’n llygaid ei le.

Mae’r wythnos bron ar ben a fory fydd diwrnod ffilmio olaf Cariad@Iaith. Ymunwch â ni ar S4C i weld pwy fydd yn cael eu coroni fel enillydd Cariad@Iaith 2014.

Gwyliwch Cariad@Iaith:Love4Language heno ar S4C, yn dechrau am 8.25pm ac yn parhau am 9.30pm ar ôl y Newyddion.