Mae’r BBC wedi sefydlu Pwyllgor Amrywiaeth er mwyn gwneud “gwahaniaeth go iawn” o ran y nifer o bobol o leiafrifoedd ethnig sy’n cael gwaith gan y Gorfforaeth.

Bydd yr actor Lenny Henry yn aelod o’r pwyllgor fydd yn cynghori’r BBC ar sut i bortreadu lleiafrifoedd ethnig.

Yn y gorffennol mae’r actor wedi cwyno nad ydy’r byd teledu na’r diwydiant ffilm yn “adlewyrchiad teg ac onest o’n cymdeithas”.

Bydd y Gymraes y Farwnes Tanni Grey-Thompson ar y pwyllgor hefyd, a’r Arglwyddes Floella Benjamin o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl Cyfarwyddwr-Cyffredinol y BBC mae’n rhaid i’r Gorfforaeth “wneud mwy” i gynyddu’r nifer o bobol o leiafrifoedd ethnig o flaen a thu ôl i’r camera.