Lleuwen, Angharad Jenkins Calan, Lisa Angharad Sorela, a Siân James – Maen nhw i gyd yn canmol albym cynta’ Mared Williams…

Os nad ydach chi’n gwybod bod gan Mared Williams lwmp o lais canu, lle ydach chi wedi bod?!

Merch ysgol oedd hi yn 2014 pan enillodd gystadleuaeth Brwydr y Bandiau gyda’r band roc Trŵbz, a daeth eu cân ‘Estyn am y gwn’ yn hit ar Radio Cymru.