Bydd wastad lle arbennig yng nghalonnau’r Cymry i Mici Plwm, un hanner o ddeuawd ddigri Syr Wynff a Plwmsan. Mae’r diddanwr adnabyddus ar fin dod yn Faer un o drefi glan-y-môr y gogledd…

Ers faint ydach chi’n ymhél â gwleidyddiaeth?

Rydw i’n aelod o Gyngor Tref Pwllheli ers wyth mlynedd a mwy, ac ar y funud yn Ddirprwy Faer y dref.

Andros o anrhydedd fydd cael bod yn Faer y dref ym mis Medi, a chael dal ymlaen i fod yn llais i drigolion y dref.