Y Cardi sy’n corlannu defaid a geiriau – ond ddim yn ffan o goncrit!

Portread o Angharad Fychan

Mae Angharad Fychan yn ferch ei milltir sgwâr sy’n ymddiddori mewn enwau lleoedd,  ac yn dwlu ar gadw defaid Penfrith Cymreig.

Mae hi’n un o Olygyddion Hŷn Geiriadur Prifysgol Cymru – mae wedi bod yn gweithio i’r geiriadur ers 1993 – a hi hefyd yw Ysgrifennydd y Gymdeithas Enwau Lleoedd.