Smart a chlasurol ydy steil yr asiant gwerthu tai – ond mae hi’r un mor hapus mewn jîns a hwdi wrth fynd a’r ci am dro. Mae hi’n berchen ar gwmni Perfect Pads a hefyd yn cyflwyno’r gyfres Tŷ am Ddim ar S4C. Mae hi’n byw yn Ynystawe, ger Abertawe…

Steil Audrey Hepburn

Dw i’n gweld fy hunan efo dwy ddelwedd, o bosib… y ddelwedd ‘gwaith’ – o ran fy swydd broffesiynol, mae’n rhaid bod yn smart, mae’r argraff gynta’n holl bwysig.