Mewn cornel glyd o dref Caerwys, rhyw ddeng milltir o dref yr Wyddgrug yn Sir y Fflint, saif hen blasty Fictorianaidd sy’n gartref i gelf.

Drwy gydol y flwyddyn, mae Lise a Dave Roberts yn agor eu cartref i dair arddangosfa. Hyd at 17 Rhagfyr, bydd gwaith deng artist, gan gynnwys Claire Shaughnessy, Jo Clarke a thri artist o Wcráin i’w gweld yn Oriel Glasfryn.