Portread o siop Gymraeg yr Wyddgrug

Yn ddiweddar mae siop Gymraeg yn y gogledd ddwyrain wedi dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant oed.

Agorwyd Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug fel menter gydweithredol ym mis Tachwedd 1973, ac mae diolch mawr i’r criw gwreiddiol fu wrthi am eu gweledigaeth, meddai’r perchennog presennol.