Bwriad perchennog siop newydd yn y gogledd yw gwerthu dillad sy’n rhoi hwb i hyder ei chwsmeriaid…

Sicrhau bod ei chwsmeriaid yn gadael yn teimlo’n hyderus a hapus, ac yn edrych ymlaen at wisgo’u dilledyn newydd, ydy nod perchennog siop newydd yn y Bala.

Menter newydd y gyflwynwraig Megan Llŷn Parri ydy Amdanat, siop sy’n gwerthu dillad ac ategion i ferched.

Eitemau y mae posib eu gwisgo dro ar ôl tro sy’n cael y sylw yn y siop, gyda phwyslais ar ddillad ‘smart casual’ o ansawdd da a chreu awyrgylch gyfforddus, groesawgar.

Agorodd y siop ar ddechrau mis Rhagfyr, ac wrth benderfynu ar ei stoc, mae Megan yn awyddus i gynnig “rhywbeth bach i bawb” a sicrhau bod digon o amrywiaeth o ran prisiau i siwtio pob cyllideb. Mae gan Amdanat ddewis o esgidiau, sawl pwrs, beltiau, capiau, sgarffiau, canhwyllau a fasys hefyd – ond y dillad ydy canolbwynt y cyfan.

Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn gyflwynydd radio ar orsaf Heart, daw Megan yn wreiddiol o Sarn Mellteyrn ym Mhen Llŷn, ond mae hi bellach yn byw yn y Bala gyda’i phartner, Iestyn.

“Mae mam yn cofio fi’n dweud yn hogan fach fy mod i am agor siop ddillad,” meddai Megan, sydd newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

“Mae yna ryw stori o pan oeddwn i’n hogan fach, roedd yna gig wedi bod yn y sied yng Nghrugeran [cartref y teulu], Bryn Fôn neu rywun, ac roedd yna lwyth o bobol wedi gadael ymbaréls. Roeddwn i tua chwech oed, ac es i â’r ymbaréls rownd y fisitors i’w gwerthu nhw. “Daeth y bobol yn ôl i nôl eu hymbaréls, a fuodd rhaid i mam fynd rownd y fisitors i gyd yn nôl yr ymbaréls a rhoi pres yn ôl iddyn nhw. Fe wnes i agor stondin gwerthu concyrs yn ben lôn hefyd – doedd yna fawr o neb yn cerdded pasio ac roeddwn i’n dweud wrth bobol yn eu bod nhw’n dda i gadw moths i ffwrdd o wardrobs.”

Wrth i’r swyddi actio a chyflwyno ddod i stop yn ystod y cyfnod clo, sylweddolodd Megan y byddai’n rhaid iddi gael gwaith wrth gefn i’w chadw i fynd petai rhywbeth tebyg yn digwydd eto.

“Fe wnes i ddechrau gwneud bob un cwrs ar-lein oeddwn i’n ffeindio… cwrs Instagram, cwrs cychwyn busnes, cwrs sgrifennu pitch, cwrs sgrifennu cynllun busnes. Roedden ni’n gwybod mai yn Bala fysa ni’n byw, ac roedden ni’n teimlo bod yna alw am rywbeth fel yma yn yr ardal.

“Roeddwn i’n gwybod bod angen iddi hi fod yn siop, yn hytrach na chychwyn ar-lein, ac mai dyna fysa’n tynnu pobol. Ar ôl y cyfnodau clo, mae pobol eisiau mynd yn ôl i’r stryd fawr draddodiadol. Mae stryd fawr Lerpwl, deuda, rŵan yn darparu ar gyfer pobol 18 oed, mae’r dillad ar y stryd fawr gonfensiynol wedi mynd reit fast fashion, ac roeddwn i’n teimlo fel bod pobol yn dechrau mynd yn ôl i werthfawrogi siopau bach lleol. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i eisiau bod yn rhan o hynny.”

“Dim byd mawreddog”

Dillad sydd am wneud i brynwyr deimlo’n dda a hyderus yn eu hunain sydd ar werth yn Amdanat, yn ôl y perchennog.

“Dw i reit tomboy-ish. Mae fy ffrindiau i’n tynnu arna fi mai’r unig beth oeddwn i’n wisgo pan oeddwn i’n form 1, 2 a 3 oedd trainers Adidas gwyn, flares golau Topshop a chrys Cardiff Blues a fy ngwallt i fyny. Dyna oedd fy ffasiwn i,” meddai Megan gan chwerthin.

“Wedyn es i drwy’r vintage stage, pan oeddwn i jyst yn prynu dillad o siopau ail law. Dw i wastad wedi licio dillad yn ofnadwy, ond dw i’n meddwl mai be dw i’n licio fwyaf, a be dw i wedi joio wrth ail-wneud fy nhŷ, ydy cyfuno lliwiau. Dw i’n licio gweld y lliwiau efo’i gilydd. Fyswn i ddim yn dweud fy mod i’n expert o gwbl, ond dw i’n meddwl fy mod i’n gallu rhoi pethau at ei gilydd sy’n canu, jyst.

“Dydy o ddim yn high fashion, dydy o ddim yn ddim byd mawreddog, dim ond dillad o ddydd i ddydd sy’n mynd i wneud i rywun feddwl: ‘Dw i’n edrych yn ddel heddiw’. Mae o’n gwneud gwahaniaeth i ddiwrnod rywun. Dw i’n meddwl fy mod i’n cael y smart casual yn o lew. Mae yna ffrogiau yma y bysech chi’n gallu eu gwisgo nhw efo bŵts a siaced ledr neu trainers a siaced denim. Pethau ti’n gallu gwisgo mwy nag unwaith ac mewn mwy nag un setting. Dw i wedi trio cael rhywbeth bach i bawb, y tir canol bach neis yna.

“Dw i wedi trio cael darnau ar gyfer trawstoriad o oed a chael trawstoriad pris. Dw i wirioneddol wedi trio cael darnau sy’n transitional i’r tymhorau hefyd, eich bod chi’n gallu’i wisgo fo yn y gaeaf a’r haf. Dydy pobol ddim efo pres i brynu rhywbeth newydd at bob penwythnos erbyn hyn, mae pobol eisiau capsiwl wardrob – pethau o ansawdd da, sy’n mynd i bara.”

“Rhoi rhif un yn gyntaf”

Y peth pwysicaf i Megan ydy bod pobol yn gadael wrth eu boddau, ac wedi cael darn sy’n adlewyrchu eu personoliaeth.

“Un o’r gwerthoedd mwyaf dw i eisiau i Amdanat gael ydy bod pobol yn teimlo’n gyfforddus yma, bod yna naws gartrefol, bod yna ddim unrhyw fath o ragfarn na dim. [Ei fod o’n] lle hapus braf, lle mae pobol yn gallu dod a chael amser iddyn nhw’i hunain – mae bywyd yn brysur ac mae pobol yn cael eu tynnu mewn cant a mil o gyfeiriadau.

“Dw i wir eisiau i ferched sy’n siopa yn Amdanat deimlo’n hyderus ynddyn nhw eu hunain. Mae o’n mynd yn angof weithiau, yr hunanwerth ac edrych ar ôl ein hunain. Mae eisiau, weithiau, jyst edrych ar ôl number one.”

Croeso “mawreddog” i’r Bala

Cymerodd tua dwy flynedd i ddod o hyd i leoliad addas i Amdanat ar Stryd Fawr y Bala, ac ers ymgymryd â’r fenter mae Megan wedi cael “croeso mawreddog a hyfryd” gan fusnesau bach y dref.

“Unrhyw gyngor dw i angen, maen nhw wastad yno. Mae hi’n gymuned fach hyfryd yma,” meddai.

“Mae [y Bala] yn debyg iawn i Ben Llŷn, a dw i’n meddwl mai dyna sut dw i wedi teimlo’n gartrefol yma reit gynnar. Mae pobol mor barod i gefnogi, mor barod i longyfarch a dymuno’n dda. Roeddwn i’n meddwl y bysa yna bobol yn dod, ond mae o wedi mynd yn fwy nag oeddwn i’n feddwl.

“Dw i’n meddwl mai hwn oedd y pumed lle ar y Stryd Fawr aethon ni i weld, a jyst gwirioni. Roedd o’n union be oedden ni eisiau, y layout, maint y siop, dwy ffenest fawr, a lle mae o ar y Stryd Fawr.”

Gyda chymorth saer coed lleol, Ceredig Puw, mae hi’n bosib newid dyluniad y rheiliau dillad yn gyson.

“Mae Ceredig yn genius! Roeddwn i eisiau gallu newid y lle drwy’r amser. Felly dw i wedi cael rhywbeth o’r enw French Cleat, a dw i’n gallu newid y layout drwy’r amser achos bod gen i fixings i’w rhoi ar y waliau. Roedd hi’n wych bod yn greadigol efo’r saer coed fel fy mod i’n gallu newid sut mae’r siop yn edrych yn gyson.”

Er mai busnes Megan ydy Amdanat, mae hi’n cael cymorth ei theulu, ei phartner, teulu ei phartner, a ffrindiau.

“Mae o wedi bod yn lot o waith, ond dw i wedi joio fo… lot o nosweithiau digwsg a lot o ofyn cyngor gan deulu. Mae gen i ddwy chwaer, un chwaer-yng-nghyfraith ac un mam, a nhw ydy board members Amdanat! Enw grŵp WhatsApp ni ydy ‘Kardashians Crugeran’ a dw i yn meddwl y dylsa ni newid yr enw i ‘Board Members Amdanat’. Mae o wedi bod yn team effort, fyswn i nefar wedi gallu ei wneud o’n hun. Mae yna gymaint o waith yn mynd mewn i rywbeth fel yma, mae eisiau pobol o’ch cwmpas chi i gadw’r llong i fynd. Mae o wedi bod yn eithaf epig, ond dw i’n ddiolchgar iawn i’r bobol o’m cwmpas i.”

Mae Amdanat yn cynnig gwasanaeth postio, ac mae posib gweld mwy o’r cynnyrch ar dudalen Instagram @_amdanat_