Mae roc-gwerin addfwyn Elidyr Glyn a’i griw wedi bod yn tu hwnt o boblogaidd ym mhob cwr o Gymru yn 2022…

Er nad yn fand sydd wedi rhyddhau llwyth o albyms dros y blynyddoedd, mae Bwncath yn un o’r rhai prysuraf a mwyaf poblogaidd sydd ganddon ni.

Maen nhw wedi chwarae dros gant o gigs eleni, yn hawdd, ac wedi eu bwcio i berfformio bob penwythnos fwy neu lai tan fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.

Tra bo’r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg yn bodloni ar un daith y flwyddyn, eleni mae Bwncath wedi cael pedair, un i bob tymor o’r flwyddyn – Taith y Gwanwyn, Taith yr Haf, Taith yr Hydref, a Thaith y Gaeaf!

Ac er bod yna bwyslais ar berfformio yn fyw, boed hynny mewn gigs cyhoeddus neu bartis priodas, mae Bwncath yn hollol organig pan ddaw hi at recordio a rhyddhau eu caneuon – ‘dim brys, dim chwys’ ydy hi.

Fe gafodd y band ei ffurfio yn 2014, a bu yn rhaid aros tair blynedd am yr albwm gyntaf, Bwncath, sy’n cynnwys y gân ‘Curiad y Dydd’.

Hon wnaeth ennill Tlws Alun Sbardun Huws yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 i’w chyfansoddwr a chanwr/gitarydd Bwncath, Elidyr Glyn.

Erbyn 2019 roedd Elidyr yn ennill Cân i Gymru gyda’i faled acwstig dyner, ‘Fel hyn ‘da ni fod’.

Mae hon ar ail albwm y band, Bwncath II, a gafodd ei rhyddhau yn 2020 ac sy’n cynnwys rhesiad o ganeuon gwych megis ‘Gwiberod’, ‘Clywed dy lais’ a ‘Tonnau’.

Dyma ganeuon sy’n cael eu mwynhau a’u canu gan bobol o bob oed, a thrawiadol yw gweld Cymry ifanc – sydd fel arfer yn cael eu denu at fiwsig hip-hop garw – yn mopio’u pennau gyda roc-acwstig gwerinol y band sydd hefyd yn cynnwys Robin Llwyd ar y gitâr drydan, Alun Williams ar y gitâr fas a Twm Ellis ar y drymiau.

Mae gan ganwr y band esboniad syml am y rheswm bod Bwncath wedi taro deuddeg i’r fath raddau.

“Rhan fawr ohono fo ydy mynd allan i gigio,” meddai Elidyr Glyn sy’n 32 oed.

“Rydan ni’n joio chwarae’r miwsig. Ac am bod ni yn chwarae yn aml, mae o’n ffordd o hyrwyddo’r caneuon.

“Ac ers y dechrau, rydw i wedi bod yn derbyn pob cynnig rydw i’n gael, os ydw i yn rhydd.

“Tydw i ddim wedi bod yn dewis a dethol gigs, jesd: ‘Os ydan ni ar gael, rydan ni yn chwarae’…

“Dw i yn gwybod dy fod ti yn gallu hyrwyddo ar y We a ballu, ac mae yna lot yn llwyddo fel yna.

“Ond, o ran sut mae pethau yn gweithio yng Nghymru, mae mynd allan a gigio a chael enw’r band ar y bwrdd du tu allan i’r dafarn, mae hwnna yn gwneud gwahaniaeth.

“Ti’n dod yn ôl yna i chwarae ymhen pythefnos neu fis, yn yr un ardal, ac mae pobol yn cofio…

“Mae yna bob tro rywun yn y tafarndai sydd heb glywed chdi o’r blaen, ac os ydyn nhw yn licio fo, maen nhw yn mynd i ddweud wrth bobol eraill i ddechrau gwrando ar y gerddoriaeth…

“Felly mae momentwm ni wedi bod yn tyfu yn slo bach ers i ni ddechrau gigio yn 2015.

“Fuo ni reit brysur ym Mhen Llŷn i ddechrau, pobol yn dechrau adnabod y caneuon.

“Wedyn mae gen ti dorf fach eithaf awyddus yna, sydd yn tynnu mwy o bobol fewn at y gigs.”

Caneuon newydd

Tydi’r band heb ryddhau unrhyw beth ers Bwncath II ym mis Mawrth 2020, ond mae ganddyn nhw gân newydd o’r enw ‘Aderyn bach’ yn ffrwtian.

“Y broses,” eglura Elidyr, “ydy ein bod ni yn cyflwyno cân newydd i’r set, achos ti eisiau eu chwarae nhw yn fyw gyntaf, er mwyn iddo ddatblygu i be’ ti eisiau iddi fod, cyn recordio.

“Os wyt ti’n recordio cân nad wyt ti wedi chwarae yn fyw efo’r band, mae hi’n datblygu ar ôl i chdi recordio hi, a ti’n meddwl: ‘Mae’r fersiwn sy’ ganddon ni erbyn hyn yn well, o lawer, na be wnaethon ni ryddhau’.

“Felly mae eisiau ychydig o amser i’r gân ffeindio’i thraed.

“Ac rydan ni yn cychwyn y broses o ddod â chaneuon newydd fewn, yn araf deg, ac mae pawb yn penderfynu ar sut maen nhw am weithio…

“Rydan ni yn teimlo ei bod hi yn amser gwneud rhywbeth newydd, a fyswn i yn licio’i gael o allan mor fuan â phosib.

“Ond ti yn gorfod rhoi amser i’r caneuon, a dim brysio i’w gorffen nhw.”

Bydd mwy na digon o gigs yn 2023 i fireinio cnwd newydd o ganeuon.