Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Revolt into Style: The Pop Arts in the 50s and 60s gan George Melly.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd 

Fever Pitch gan Nick Hornby. Ges i fenthyg e gan athro Hanes yn yr ysgol pryd o’n i tua 15 oed. Roedd e bron yn frawychus faint o’n i yn uniaethu gyda Nick Hornby, ac yn agoriad llygaid llwyr. Mae Fever Pitch yn llyfr gwych am ddosbarth, gwrywdod, iselder, hunaniaeth, a diwylliant poblogaidd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Wnaeth e hefyd ddangos i fi bod e’n bosib sgrifennu am brofiad y cefnogwyr yn hytrach na phrofiad y chwaraewyr mewn ffordd ddoniol, ddoeth, graff.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna i

The Secret Diary of Adrian Mole aged 13¾ gan Sue Townsend oedd y llyfr cyntaf i fi ddarllen oedd yn gallu hala fi chwerthin gymaint â fy hoff raglenni teledu. Darllenais i’r llyfr mewn cyfnod pwysig – 13 oed, tua’r un oedran ag Adrian ei hun, oedran anodd i fechgyn pryd mae llyfrau yn gallu teimlo braidd yn ddiflas, ond mae safon y jôcs mor uchel. Darllenais i ddim o’r lleill yn y gyfres, ro’n i eisiau i’r cymeriadau aros yr un oedran am byth, fel Bart Simpson. Roedd rhywbeth rhyfedd am y ffaith bod Adrian wedi dechrau gweithio yn chef yn Soho erbyn 1999 tra bod Pandora yn Aelod Seneddol i’r Blaid Lafur.

Y llyfr sy’n hel llwch

Heart of Darkness gan Joseph Conrad am ryw reswm, ond fi’n ffyddiog bydd hwn yn newid rhyw ddydd. Sa i’n ffyddiog y bydda i’n gorffen Moby Dick gan Herman Melville. Nonsens llwyr.

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Mae’r ffaith bo fi heb ddarllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn hala fi deimlo fel bradwr.

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Es i ati i ddarllen popeth gan George Orwell yn fy arddegau a fy ugeiniau cynnar, ac mae yna o hyd lawer o atebion i broblemau cyfoes yn ei lyfrau. Galla i awgrymu The Lion and the Unicorn: Socialism and the English Genius, llyfr y bydda i’n mynd yn ôl ato dro ar ôl tro.

Y llyfr sydd wastad yn codi gwên

Fi’n hoff iawn o lyfrau Heiddwen Tomos. Mae ganddi ddawn aruthrol am ysgrifennu tafodiaith gorllewin Cymru. Mae deialog ei chymeriadau yn berffaith bob tro.

Llyfr i’w roi yn anrheg

Billy Liar gan Keith Waterhouse, neu Portrait of the Artist as a Young Dog gan Dylan Thomas. Llyfrau gwych, byr – d’ych chi ddim eisiau rhoi prosiect i rywun yn anrheg Nadolig. Mae sawl person wedi prynu Inverting the Pyramid: The History of Football Tactics gan Jonathan Wilson i fi yn anrheg, sy’n dweud rhywbeth.

Fy mhleser (darllen) euog 

Es i drwy gyfnod o ddarllen y llyfrau am gangsters a oedd ar werth yn HMV tua 20 mlynedd yn ôl. Fel y llyfrau am hwliganiaid pêl-droed. Maen nhw i gyd yr un peth ac yn ddoniol iawn.

Y math o lyfr yr hoffwn ei sgrifennu

Ar ôl gweld fy nghariad Isy Suttie yn sgrifennu nofel, dw i wedi derbyn fy mod i ddim yn ddigon clyfar neu ddisgybledig i sgrifennu ffuglen, felly mae e lan i rywun arall ysgrifennu fersiwn Caerfyrddin o Ulysses. Ar ôl dwlu ar Rip It Up and Start Again: Postpunk 1978-84 gan Simon Reynolds (a hefyd ei gampwaith, Retromania: Pop Culture’s Addiction to Its Own Past), fi’n synfyfyrio ambell waith am ysgrifennu llyfr tebyg, ond am y Sîn Roc Gymraeg yn y 1990au.

Y llyfr yr hoffwn ei gael yn anrheg ar fore Nadolig

Rhywbeth wedi ei lofnodi gan Paul McCartney. Unrhywbeth!

ELIS JAMES

Digrifwr a gafodd ei eni yn Hwlffordd a’i fagu yng Nghaerfyrddin, sydd erbyn hyn yn un o enwau mawr y byd comedi yng ngwledydd Prydain. Mae wedi perfformio sawl taith stand-yp Gymraeg ac wedi ymddangos droeon ar S4C, ar gyfresi fel ’Nabod y Teip. Mae e’n byw yn ne Llundain gyda’i gymar Isy Suttie, a’u dau o blant bach. Mae’n dilyn tîm pêl-droed Abertawe ac yn mynd i gemau Cymru oddi cartref ers blynyddoedd. Bu’n gohebu ar ran y Guardian am hynt a helynt tîm Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Qatar. Mae ganddo sioe wythnosol am bêl-droed gyda John Robins ar BBC Radio 5 Live, sydd hefyd yn bodlediad.