Mae’r wal dalu wedi ei hepgor ar gyfer yr erthygl ganlynol, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Gwaith rhyw yng Nghymru ydy un o bynciau hanesydd o Ganada sy’n byw yng Nghaerdydd.
Mae Dr Angela Muir, gafodd ei magu yn Calgary, yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerlŷr, ac yn arbenigo ar hanes cymdeithasol a diwylliannol.
Mae Angela hefyd yn chwarae’r trymped a’r allweddellau gyda’i band indi-roc yng Nghaerdydd.
Yn wreiddiol daeth yr hanesydd 43 oed i Gymru i weithio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, cyn mynd i wneud gradd meistr yn Abertawe.
A thestun ei doethuriaeth oedd hyn: profiad a chyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a meddygol cael plentyn tu allan i briodas yn y ddeunawfed ganrif yng Nghymru.
“Mae hanes wastad wedi fy niddori, a dw i’n cael fy nenu at y gorffennol a bywydau’r rhai sydd wedi bod yma cyn ni. Pan wnes i sylwi bod posib astudio Hanes yn y brifysgol, es i amdani,” meddai Angela, a symudodd i Vancouver i wneud ei gradd gyntaf mewn Hanes Prydain.
“Yn y rhan o Ganada lle cefais fy magu, dydy Hanes ddim yn rhan o’r cwricwlwm – mae’n cuddio tu ôl i rywbeth o’r enw ‘Social Studies’.”
Ochr gymdeithasol hanes, a bywydau pob dydd y bobol gyffredin yn hytrach na’r bobol fawr, sy’n diddori Angela, yn enwedig hanes rhyw, trosedd, meddygaeth a’r corff yn y ddeunawfed ganrif.
“A phwy sydd heb ddiddordeb mewn trosedd? Ond dw i’n gweld ochr droseddol hanes, yn enwedig yng Nghymru, yn ddiddorol oherwydd bod y cofnodion sydd ynghlwm â’r pwnc mor gyfoethog, ac ar gyfer y ddeunawfed ganrif yn arbennig, does yna ddim byd arall yn cymharu â lefel y manylder.
“Mae’n anodd dweud yn union pa mor gyffredin oedd gwaith rhyw, achos doedd e ddim yn rhywbeth oedd yn anghyfreithiol yn dechnegol, felly doedd e ddim cael ei gofnodi na’i erlyn. Ond mae’n dod fyny wrth edrych ar droseddau eraill oedd yn gysylltiedig â gwaith rhyw.
“Dw i’n meddwl ei fod mor gyffredin bryd hynny ag y mae e nawr.
“Mae cymdeithas yn wahanol ac mae’r economi’n wahanol, ond dw i’n meddwl bod yr ysgogiad tu ôl iddo’r un peth – mae’n ffordd i fenywod wneud arian.
“Mae’r menywod rydyn ni’n eu gweld yn y cofnodion hyn yn fenywod sy’n is o ran dosbarth cymdeithasol, ar y cyfan, ac yn cymryd rhan mewn gwaith rhyw er mwyn trio cael deupen llinyn ynghyd.
“Felly, am wn i ei fod mor gyffredin â menywod mewn tlodi.
“Dw i’n siŵr bod menywod oedd ddim mewn tlodi enbyd yn gwneud gwaith rhyw, ac mae gennych chi feistresi’r elît y gellir eu hystyried fel gweithwyr rhyw, ond does gennym ni ddim cofnodion ohonyn nhw.
“Y menywod y mae cofnod ohonyn nhw, maen nhw’n is lawr y drefn gymdeithasol ac maen nhw, fwy na thebyg, yn cymryd rhan yn yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘makeshift economy’ – sef gwneud beth bynnag fedran nhw i fedru byw.”
Yn ôl Angela, mae tystiolaeth am fenywod yn gwneud gwaith rhyw ledled Cymru, ond yn bennaf mewn trefi marchnad a phorthladdoedd fel Caernarfon, Caerfyrddin, Aberhonddu ac Abertawe, lle mae mwy o fynd a dod.
Mae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr, sef llys uchaf y wlad wedi i Ddeddfau Uno Harri VIII uno Cymru a Lloegr, yn “gyfoeth” o ffynonellau.
“Roedd Llys y Sesiwn Fawr yn ymdrin â throseddau difrifol a throseddau oedd yn wynebu’r gosb eithaf,” eglura.
Gan fod rhan fwyaf o boblogaeth Cymru’n uniaith Gymraeg a’r system gyfreithiol yn Saesneg, roedd tystiolaeth y dioddefwyr yn cael ei gyfieithu, ac mae’r rheiny wedi goroesi.
Ar hyn o bryd, mae hi’n edrych ar wrthdaro rhwng pobol er mwyn gweld sut y gwnaeth patrymau symudedd a rhyngweithio cymdeithasol newid ym Morgannwg rhwng 1730 a 1830 wrth i ddinas Abertawe dyfu.
“Dw i hefyd yn edrych i weld os ydy demograffeg y boblogaeth yn newid, ydyn ni’n dechrau gweld mwy o bobol o bell yn dod yno?”
Dysgu Cymraeg oedd y “peth i wneud” wedi iddi symud yma, meddai Angela, sy’n deall a darllen yr iaith, ac yn gallu sgrifennu a siarad rywfaint.
“Pan mae rhywun yn gofyn rhywbeth yn Gymraeg dw i’n rhewi ac yn anghofio’r holl eiriau dw i wedi’u dysgu.
“Ond, dw i’n trio’i defnyddio cymaint â phosib, mae gen i gydweithiwr yn yr adran wleidyddiaeth yng Nghaerlŷr, ac mae e’n dod o Geredigion felly dw i’n ei gyfarch yn Gymraeg.
“Er bod y rhan fwyaf o’r cofnodion dw i’n edrych arnyn nhw’n Saesneg, yn anffodus, dw i’n meddwl y dylech chi siarad yr iaith os ydych chi’n hanesydd sy’n edrych ar Gymru. Ac mae hi’n iaith anhygoel!”
Ynghyd â chwarae gyda The Echo and the Always – “enw ofnadwy ar fand!” – mae Angela’n gwirfoddoli mewn cartref i gathod yng Nghaerdydd.
“Dw i’n siŵr bod fy mhersonoliaeth i wedi cael ei ddiffinio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan fy nghathod.
“Mae fy mhartner a fi wedi achub pedair cath dros y ddwy flynedd ddiwethaf ond maen nhw i gyd yn wrywaidd.”
Mae Pickles a Tennyson dal ganddyn nhw, ac yn iach oni bai am feirws sy’n effeithio ar system imiwnedd cathod.
“Dw i’n obsessed efo mabwysiadu cathod sâl a thrio’u gwneud nhw mor iach â phosib a threulio amser efo nhw pan dw i ddim yn y gwaith, sydd ychydig yn drist pan ydych chi’n dweud hynny’n uchel!”