Mae arweinydd mynydd a ffotograffydd ifanc yn gwirioni gyda’r uchelfannau ac yn awyddus i bawb gael yr un wefr.

Ysbrydoli eraill i fynd allan a disgyn mewn cariad efo Eryri ydy nod Gerwyn Siôn Roberts, a gwneud hynny drwy ei waith tywys a’i waith tynnu lluniau.